Pwy ydym ni
Ni yw Canolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC), sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd ac wedi ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Rydym yn gweithio ar y cyd i gefnogi ymchwil canser ledled Cymru.
Ein gweledigaeth
I Gymru gael cymuned ymchwil â chysylltiadau da, sy’n perfformio’n dda, ac sy’n cynnal ymchwil o’r radd flaenaf, gan effeithio ar gyfraddau canser a chanlyniadau cleifion ledled y byd.
Ein cenhadaeth
- Datblygu rhagoriaeth ym meysydd cryfder ymchwil canser yng Nghymru
- Denu buddsoddiad a fydd yn ehangu gweithgarwch ymchwil
- Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ymchwil i gleifion canser Cymru
Yr hyn a wnawn
- Ymgysylltu â’r gymuned ymchwil canser ehangach gyda Strategaeth Ymchwil Canser Cymru (CReSt) a chydlynu darpariaeth
- Cydlynu ac arwain strategaeth ymchwil canser cyntaf Cymru
- Adnabod a meithrin arweinwyr ymchwil canser Cymru y dyfodol
- Cefnogi ymchwil canser o ansawdd uchel
- Cydweithio â phartneriaid ledled Cymru a’r DU
- Sicrhau bod cleifion ar draws Cymru yn elwa o ymchwil
Darllenwch ein Hadroddiad Rhanddeiliaid Blynyddol i gael trosolwg o’n prif gyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf.