CReSt: Strategaeth Ymchwil Canser Cymru
Yn 2022, lansiwyd Strategaeth Genedlaethol Ymchwil Canser gyntaf Cymru (CReSt). Adeiladu ar y gorau o’r ymchwil sy’n cael ei wneud yn barod yw’r nod, er mwyn cynyddu dyfnder a màs critigol gweithgarwch ymchwil canser yng Nghymru.
Lawrlwythwch y strategaeth yma:
Moving Forward: A Cancer Research Strategy for Wales
Symud ymlaen: Strategaeth Ymchwil Canser Cymru
Mynd â CReSt ymlaen gyda’n gilydd
Bydd Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn cydlynu gweithrediad CReSt trwy ddod â phobl ynghyd o bob rhan o’r gymuned ymchwil canser.
Edrychwn ymlaen at ddatblygu llawer o gysylltiadau newydd a gweithio gyda phartneriaid presennol wrth i’r gwaith o gyflawni CReSt ddechrau yn 2022.
I gael gwybod sut y gallwch chi neu’ch sefydliad gymryd rhan yn y broses o weithredu’r strategaeth, cysylltwch â wcrc@caerdydd.ac.uk
Oncoleg mecanistig a manwl
Edrych ar sut y gall geneteg effeithio ar bwy sy’n cael canser, sut mae’r canser hwnnw’n ymddwyn, a chanfod ffyrdd o drin canserau â ‘llofnodion’ genetig penodol.
Imiwno-oncoleg
Deall sut mae ymatebion imiwn ein cyrff yn newid pan fydd canser yn datblygu, a dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio’r system imiwnedd i helpu i frwydro yn erbyn canser.
Radiotherapi
Archwilio sut y gall radiotherapi ladd celloedd canser tra’n cyfyngu ar yr effaith ar weddill y corff.
Treialon clinigol canser
Dod â thriniaethau newydd addawol i gleifion mewn treialon a phrofi ffyrdd newydd o roi triniaethau presennol.
Oncoleg gefnogol a lliniarol
Dod o hyd i’r ffyrdd gorau o ofalu am gleifion â chanser, fel rheoli poen, rheoli sgîl-effeithiau a chymorth iechyd meddwl.
Ymchwil atal, canfod cynnar, gofal sylfaenol a gwasanaethau iechyd
Dod o hyd i ffyrdd newydd o atal canser a’i ganfod yn gynnar, a gwneud yn siŵr bod gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn cael eu hategu gan wyddoniaeth gref.
Y diweddaraf ar CReSt
Stori Mark: “Mae CReST yn gynllun pwysig i gleifion fel fi yng Nghymru”
Fel Partner Ymchwil Canolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC) ar gyfer Gogledd Cymru, mae gen i ddiddordeb arbennig yn CReSt, y…
Ymchwilydd canser o Gaerdydd yn cael grant o £230,000 ar gyfer peilot prawf gwaed canser yr ysgyfaint
Mae ymchwilydd canser o Gaerdydd wedi derbyn cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am ei gwaith ar gyflwyno prawf…