Mynd i'r cynnwys

Mae ymchwilwyr a ariennir gan Ganolfan Ymchwilwyr a ariennir gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru yn disgleirio yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd

Chwith-dde: Roșie Mundo, Emma Swift a Hannah Preston

Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn falch o longyfarch dau o’n hymchwilwyr a ariannir, Emma Swift a Rosie Mundy, ar eu llwyddiant yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn ddiweddar.

Derbyniodd Emma Swift, aelod o dîm ymchwil Labordy Imiwnotherapïau Firaol a Therapiwteg Ddatblygedig (VITAL), Wobr fawreddog Lesley Jones am Fyfyriwr PhD y flwyddyn yn yr Ysgol Meddygaeth, gan gydnabod ei chyfraniadau rhagorol at ymchwil a rhagoriaeth academaidd.

Anrhydeddwyd Rosie Mundy â Gwobr Ymgysylltu â Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig, sy’n dathlu unigolion sy’n gwneud cyfraniadau eithriadol at ymgysylltu â’r cyhoedd, partneriaethau cymunedol a gweithgareddau ymgysylltu. Wrth fyfyrio ar y wobr, dyma a ddywedodd Rosie:

“Roedd cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon yn golygu llawer, yn enwedig gan fy ngoruchwyliwr PhD Alan Parker a’m gwahoddodd i ddechrau i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu a’r cyhoedd! Llongyfarchiadau i’r holl enwebeion ac enillwyr, roedd yn hyfryd cael dathlu cyflawniadau nifer o fyfyrwyr ac aelodau staff cefnogol!”

Roedd y digwyddiad yn ddathliad gwych o wyddoniaeth sy’n cael effaith ac yn tynnu sylw at gryfder cymuned ymchwil firoleg Caerdydd. Ochr yn ochr â chyflawniadau Emma a Rosie, cafodd Hannah Preston ei chydnabod gyda Gwobr Effaith ac Arloesi am ei gwaith arloesol yn datblygu therapïau newydd i reoli haint cytomegalofeirws (CMV).

Llongyfarchiadau i Emma a Rosie ar yr anrhydeddau haeddiannol hyn!