
Mae Dr Bruce MacLachlan, sy’n ymchwilydd canser ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn cymrodoriaeth bwysig am bum mlynedd gwerth £500,000 gan Ymchwil Canser Cymru i ddatblygu ei waith o ddatblygu imiwnotherapïau a gynlluniwyd i fod o fudd i fwy o bobl â chanser.
Mae’r dyfarniad yn dilyn cyfnod o gefnogaeth gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), a roddodd gyllid pontio i alluogi Dr MacLachlan i barhau â’i ymchwil a datblygu ei waith wrth baratoi ei gais am gymrodoriaeth.
Mae ymchwil Dr MacLachlan, sy’n gweithio yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, yn canolbwyntio ar ddefnyddio system imiwnedd y corff i gydnabod a dinistrio celloedd canser. Nod ei waith yw helpu i ddatblygu imiwnotherapïau newydd sy’n effeithiol mewn ystod eang o gefndiroedd genetig, gan helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran pwy sy’n elwa ar y triniaethau hyn.
Mae imiwnotherapi wedi trawsnewid triniaeth canser i rai cleifion drwy helpu’r system imiwnedd i adnabod celloedd canser ac ymosod arnyn nhw. Fodd bynnag, gall gwahaniaethau yng nghyfansoddiad genetig etifeddol pobl effeithio ar y ffordd y mae eu systemau imiwnedd yn adnabod canser, gan greu heriau wrth ddatblygu triniaethau sy’n gweithio mewn poblogaethau amrywiol.
Mae Dr MacLachlan yn canolbwyntio ar gelloedd T CD4+, sef math o gell gwaed gwyn sy’n chwarae rhan bwysig yn ymateb y system imiwnedd. Drwy ymchwilio i’r hyn y mae’r celloedd hyn yn ei adnabod ar gelloedd canser, mae’n gobeithio dod o hyd i ffyrdd newydd o gyfeirio’r system imiwnedd tuag at ddileu canser.
Gan fyfyrio ar yr hyn sy’n ysgogi ei ymchwil, eglurodd Dr MacLachlan ei fod wedi clywed yr ymadrodd canlynol dro ar ôl tro: “Therapi newydd cyffrous, cyn belled â’ch bod yn HLA-A2+”.
Ychwanegodd: “Fel y dywedais yn ystod fy nghyfweliad, allwn ni ddim parhau fel hyn.”
Nod ei ymchwil yw datblygu’r wybodaeth, yr offer a’r darpar ymgeiswyr therapiwtig sydd eu hangen i ddefnyddio celloedd T CD4+ a chreu triniaethau sy’n gweithio mewn gwahanol fathau HLA dosbarth II. Mae moleciwlau HLA yn helpu’r system imiwnedd i wahaniaethu rhwng targedau gwahanol, a gall amrywiad genetig yn y moleciwlau hyn ddylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn ymateb i imiwnotherapïau.
Drwy ystyried yr amrywiaeth hwn o’r cychwyn cyntaf, nod yr ymchwil yw helpu gwneud triniaethau canser yn fwy defnyddiol yn y dyfodol, beth bynnag yw cefndir genetig rhywun.
Mae llwyddiant Dr MacLachlan yn tynnu sylw at bwysigrwydd cefnogi ymchwilwyr ar gamau allweddol yn eu gyrfa a buddsoddi mewn ymchwil addawol sydd â’r potensial i wella canlyniadau i bobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan ganser.
“Mae’n fraint enfawr cael cyllid Cymrodoriaeth gan Ymchwil Canser Cymru, ac rwy’n hynod ddiolchgar eu bod wedi ymddiried ynof i gyflwyno effaith i’w rhoddwyr hael. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi fy helpu i fynd cyn belled â hyn, yn enwedig fy mentoriaid Andrew Godkin ac Awen Gallimore, a phawb yn y labordy, yn y gorffennol a’r presennol.”
Bydd y gymrodoriaeth bum mlynedd yn caniatáu i Dr MacLachlan ddatblygu ei ymchwil a gweithio ar y cyd ag arbenigwyr eraill i ddod â darganfyddiadau yn nes at fod yn driniaethau newydd.
Dyma a ddywedodd Dr MacLachlan wrth sôn am ei ddyheadau ar gyfer ei ymchwil: “Drwy sicrhau bod gwahaniaethau genetig yn cael eu hystyried o’r cychwyn cyntaf, nod fy ymchwil yw gwneud i therapïau o’r fath weithio i bawb.”
