Mynd i'r cynnwys

Symud y tu hwnt i fodelau anifeiliaid: edrych ar ddulliau newydd o ymchwilio i ganser

Ar 18 Tachwedd, croesawodd Canolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC) 31 o ymchwilwyr o bob cwr o Gymru i’r gweithdy wyneb yn wyneb ‘Symud y tu hwnt i fodelau anifeiliaid’, a gadeiriwyd gan yr Athro Awen Gallimore (Prifysgol Caerdydd) a Dr Oommen Oommen (Prifysgol Caerdydd).

Rhoddodd yr Athro Catrin Pritchard (Prifysgol Leicester) araith ysbrydoledig, a baratôdd y llwyfan ar gyfer y diwrnod, gan drafod ei gwaith sy’n ystyried y defnydd o allblaniadau tiwmor sy’n deillio o gleifion (PDEs) fel model cyn-glinigol ar gyfer rhagweld ymatebion cleifion i therapïau uwch. 

yr Athro Catrin Pritchard

Dilynwyd hyn gan amrywiaeth o gyflwyniadau diddorol gan ymchwilwyr gan gynnwys ystod o gymwysiadau modelau nad ydyn nhw’n anifeiliaid mewn ymchwil. Yn hollbwysig, roedd digon o amser i drafod a rhwydweithio, gan roi cyfle i’r rhai a oedd yn bresennol wneud cysylltiadau. 

Wrth fyfyrio ar y gweithdy, nododd yr Athro Awen Gallimore:

“Mae gwella modelau canser cyn-glinigol yn hanfodol i wneud ein canfyddiadau’n fwy perthnasol i gleifion a chyflymu’r broses o’u trosi’n fudd clinigol. Dangosodd y gweithdy fod gennyn ni lawer o’r arbenigedd a’r seilwaith eisoes i wireddu hyn. Nawr, mae angen i ni gysylltu’r dotiau, ymdrechu ar y cyd a throi ein cryfderau yn effaith wirioneddol.”