Mynd i'r cynnwys

Manwl-Gywirdeb mewn Ymarfer: Mae ymchwilwyr o Gymru yn archwilio dulliau newydd o ddiagnosio canser a haenu cleifion

Dr Jason Webber a Dr Magda Meissner

Ar 24 Medi, croesawodd Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) tua 40 o bobl o bob cwr o Gymru i ddigwyddiad Manwl-Gywirdeb mewn Ymarfer: Haenu Cleifion ym maes Ymchwil Canser.

Dan gadeiryddiaeth Dr Magda Meissner (Canolfan Canser Felindre a Phrifysgol Caerdydd) a Dr Jason Webber (Prifysgol Abertawe), rhoddodd y digwyddiad y cyfle i’r sawl ddaeth ynghyd ddysgu sut mae ymchwilwyr canser ym mhob cam o’u gyrfa, mewn labordai ac ysbytai ledled Cymru, yn defnyddio dulliau, technolegau ac adnoddau gwahanol i hyrwyddo datblygiad dulliau meddygaeth personol a manwl-gywir i wneud diagnosteg.

Yn ystod y diwrnod cafwyd sgyrsiau ysbrydoledig yn ogystal â digonedd o amser i rwydweithio a thrafod gyda chynrychiolwyr a chael gwybod eu barn am ddatblygu prosiectau ar y cyd yn y dyfodol.

Cafwyd sgyrsiau ar bynciau a oedd yn cwmpasu ystod o offer a thechnegau diagnostig er mwyn haenu cleifion ym maes ymchwil canser, cyllid grantiau, a sut y gallwn ni ddefnyddio data i’w ganfod yn cynnar. Roedd yr agenda yn un lawn, gan ysgogi llawer o drafodaeth a rhannu gwybodaeth.

Wrth roi adborth ar y diwrnod, dywedodd 100% o’r ymatebwyr (pan oedd yn berthnasol) eu bod wedi cwrdd â rhywun yn y digwyddiad y gallent gydweithio ag ef yn y dyfodol. Ar ben hynny, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys y cyhoedd a chleifion (PPI) byd ymchwil, nododd un person fod “y trafodaethau’n cynnwys mewnbwn Cynnwys y Cyhoedd ac Ymarferwyr o ran ymchwil lwyddiannus a oedd yn canolbwyntio ar ganlyniadau cleifion a phwysigrwydd ymwybyddiaeth y cyhoedd o ymchwil”.

Hoffai tîm y Ganolfan estyn ein diolch i bawb a ddaeth i’r cyfarfod, ac yn benodol, y siaradwyr a gyflwynodd eu gwaith: 

Dr Magda Meissner (Canolfan Canser Felindre a Phrifysgol Caerdydd) – Integreiddio ctDNA yn rhan o lwybrau diagnostig canser

Dr Jason Webber (Prifysgol Abertawe) – Defnyddio fesiglau allgellog er mwyn canfod canser y prostad a haenu clefydau

Dr Lee Campbell (Ymchwil Canser Cymru) – Grantiau a beth yw hanfod cais llwyddiannus

Dr Isobella Honeyborne (Prifysgol Caerdydd) – O Dwbercwlosis i Fioleg Tiwmorau

Dr Mohamad Kamarizan (Prifysgol Abertawe) – Spectrosgopeg Raman Serwm i bersonoli rheolaeth polypau rectwm a chanser

Yr Athro Andrew Beggs (Prifysgol Birmingham) – Dilyniannu nanoporau ctDNA i fod yn ddull rhad, graddadwy yn y GIG 

Yr Athro Duncan Baird (Prifysgol Caerdydd) – Hyd telomerau ac ansefydlogrwydd genomau yn y clinig

Dr Arron Lacey (Prifysgol Abertawe) – Defnyddio Data Canser Poblogaeth sy’n Gysylltiedig â Chymru er mwyn canfod yn gynnar