Mynd i'r cynnwys

Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn dod ag ymchwilwyr ynghyd ar gyfer diwrnod rhwydweithio

Ar 19 Hydref, croesawodd Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) ymchwilwyr presennol a chyn ymchwilwyr sydd wedi derbyn cyllid gan WCRC i’w Diwrnod Rhwydweithio Ymchwilwyr, sef diwrnod o rannu gwybodaeth, datblygiad proffesiynol a chydweithio ar draws Cymru.

Daeth yr ymchwilwyr ynghyd o wahanol gamau yn eu gyrfaoedd i rannu eu gwaith, dysgu am ddatblygiadau ym maes ymchwil canser yng Nghymru a meithrin cysylltiadau â chydweithwyr sy’n gweithio mewn gwahanol feysydd ymchwil.

Roedd y rhaglen yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau ymchwil byr, yn arddangos ehangder y gwaith a gefnogir gan WCRC. Rhannodd Dr Claire O’Neill o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyngor gwerthfawr hefyd ar sut i osgoi peryglon cyffredin wrth wneud cais am gymrodoriaethau a dyfarniadau personol, tra bu Dr Huw Morgan yn myfyrio ar ei daith tuag at yrfa ymchwil annibynnol.

Roedd cynnwys y cyhoedd ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn ganolog i’r diwrnod, gyda’r cyfranogwyr yn cael cyfle i gwrdd â Phartneriaid Ymchwil Cynnwys y Cyhoedd a Chynnwys Cleifion (PPI) newydd WCRC a chymryd rhan mewn trafodaethau grwpiau bach i archwilio rôl PPI mewn ymchwil canser.

Byrddau trafod Cynnwys y Cyhoedd a Chynnwys Cleifion (PPI)

Myfyriodd Molly Fenton, Partner Ymchwil Arweiniol Lleyg PPI WCRC, ar bwysigrwydd dod ag ymchwilwyr a phartneriaid cyhoeddus ynghyd wyneb yn wyneb:

“Roedd yn ddiwrnod gwych, ac rwy’n hynod falch o’n cynrychiolwyr PPI, Julie, Bob a Carole, a ofynnodd gwestiynau pwysig o safbwynt y cyhoedd a chleifion. Roedd cael cyfle i’w gweld i gyd wyneb yn wyneb yn sicr yn un o uchafbwyntiau’r diwrnod.”

Rhoddodd y trafodaethau gyfle i gynrychiolwyr PPI rannu eu safbwyntiau, archwilio profiadau unigol a chynnig arweiniad i ymchwilwyr ar gynnwys cleifion a’r cyhoedd yn eu gwaith.

Manon Jones, ymchwilydd WCRC, yn rhoi cyflwyniad yn Niwrnod Rhwydweithio Ymchwilwyr

Tynnodd yr adborth o’r diwrnod sylw at werth y cyflwyniadau ymchwil a’r cyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau mwy penodol. Dywedodd un cyfranogwr yn y ffurflen adborth ddienw:

“Mwynheais glywed am yr holl waith gwych sy’n cael ei wneud – mae’n wirioneddol ysbrydoledig. Roeddwn hefyd yn gwerthfawrogi’r trafodaethau PPI o amgylch byrddau bach yn fawr, gan eu bod yn ffordd wych o rannu ein sefyllfaoedd unigol a chael cyngor ac arweiniad personol.”

Rhoddodd Diwrnod Rhwydweithio Ymchwilwyr gyfle gwerthfawr i ymchwilwyr a chyn-ymchwilwyr a ariannwyd gan WCRC ailgysylltu, cyfnewid syniadau a datblygu perthnasoedd a all gefnogi cydweithrediadau ymchwil yn y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn i’r holl siaradwyr, ymchwilwyr, Partneriaid Ymchwil PPI a hwyluswyr a gyfrannodd at y diwrnod, ac i dîm WCRC am drefnu’r digwyddiad.

Ariennir WCRC gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan gefnogi ymchwil canser a chydweithio er mwyn gwella canlyniadau i bobl ledled Cymru.