Mae ymchwilydd canser o Gaerdydd wedi derbyn cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am ei gwaith ar gyflwyno prawf gwaed anymwthiol (non-invasive) i gleifion sydd ag amheuaeth uchel o ganser yr ysgyfaint.
Mae Dr Magda Meissner yn ymgynghorydd Oncoleg Feddygol gyda phrofiad helaeth mewn profion ctDNA mewn treialon clinigol, sydd wedi’i lleoli yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Yn raddedig o raglen Arweinwyr y Dyfodol mewn Ymchwil Canser, cafodd grant Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) o £230,000 gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ym mis Hydref 2022 ar gyfer ei gwaith, sy’n ceisio lleihau’r amser rhwng atgyfeirio a dechrau triniaeth ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint.
Cefnogir yr astudiaeth beilot ymchwil sylfaenol gan Labordy Genomeg Cymru Gyfan a chaiff ei chynnal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPABM).
“Canser yr ysgyfaint yw’r trydydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru, ac mae mwyafrif y cleifion yn cael diagnosis pan fydd wedi lledaenu,” meddai Dr Meissner. “Mae proffilio genomig canser yn galluogi clinigwyr i ddewis y driniaeth bersonol fwyaf priodol ar gyfer y claf unigol.
“Ond ar hyn o bryd, nid yw’r llwybr presennol yn bodloni safonau a argymhellir yn genedlaethol. Rydym am gyflymu’r broses drwy brofi cleifion canser yr ysgyfaint yn gynharach yn y llwybr diagnostig gan ddefnyddio prawf gwaed. Mae gan hyn y potensial i achub bywydau trwy gynyddu mynediad cynnar at therapïau wedi’u targedu.”
Mae treialon clinigol wedi profi bod therapïau wedi’u targedu yn gwella canlyniadau i gleifion, gan gynnwys goroesi, ac yn cael llai o sgîl-effeithiau na chemotherapi neu imiwnotherapi. Esboniodd Dr Meissner, fel rhan o’r prosiect, y bydd triniaeth bersonol i gleifion yn cael ei harwain gan ganlyniadau eu profion gwaed.
Bydd recriwtio ar gyfer yr astudiaeth yn digwydd yn bennaf ymhlith cleifion allanol yng Nghlinig Cyflym yr Ysgyfaint yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Gall rhai cleifion gael eu recriwtio fel cleifion mewnol mewn wardiau meddygol.
Bydd canlyniadau Genomig y prawf gwaed ctDNA ar gael i’r cyfarfod tîm amlddisgyblaethol canser yr ysgyfaint (MDT) wythnosol, lle gwneir penderfyniadau diagnosis a thriniaeth canser. Bydd cleifion wedyn yn cael triniaeth bersonol ar ôl yr MDT heb orfod aros am yr adroddiad genomig o fiopsi meinwe.
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael grant RfPPB gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru,” meddai Dr Meissner. “Mae gan y cynllun peilot hwn oblygiadau enfawr i gleifion canser yr ysgyfaint a phobl mewn perygl ledled Cymru sydd angen mynediad cyflym at therapïau personol sy’n achub bywydau.”
Dywedodd yr Athro Mererid Evans, Cyfarwyddwr WCRC: “Mae Dr Meissner yn seren ymchwil sy’n dod fwyfwy i’r amlwg, ac rydym yn falch iawn o glywed ei bod wedi cael y grant hwn. Mae hi’n glinigydd ac yn ymchwilydd ymroddedig sydd wedi ymrwymo i wella iechyd a lles yng Nghymru. Llongyfarchiadau Magda, mae’n haeddiannol iawn.”
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
“Roeddem wrth ein bodd i weld cymaint o geisiadau o ansawdd uchel eleni, ar gyfer grantiau prosiect a gwobrau personol. Mae ein cynnydd diweddar mewn cyllid wedi ein galluogi i ariannu ychydig mwy o ddyfarniadau nag arfer mewn amrywiaeth o bynciau iechyd a chymdeithasol sylweddol sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys canser, diabetes, plant sy’n derbyn gofal, rhai sy’n gadael gofal, iechyd meddwl, ymateb brys a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Gyda’i gilydd mae’r prosiectau hyn yn enghraifft arall o botensial ymchwil i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a lles pobl.”
Ariennir y prosiect rhwng Hydref 2022 a Medi 2024. I gael rhagor o wybodaeth am y grant RfPPB, ewch i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.