Mae Pecyn Cymorth Cynnwys y Cyhoedd mewn Effaith Ymchwil (PIRIT) am ddim wedi’i lansio o ganlyniad i gydweithrediad rhwng Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC)aChanolfan Ymchwil Marie Curie (MCRC). Nod y Pecyn Cymorth yw helpu ymchwilwyr sy’n gweithio gyda’r cyhoedd i gynllunio cyfranogiad ystyrlon mewn ymchwil ochr yn ochr â helpu i olrhain a dangos y gwahaniaeth y mae’n ei wneud.
Datblygwyd PIRIT pan sylweddolwyd ar ôl adolygiad o offer presennol nad oedd yr un ohonynt yn gysylltiedig â Safonau Cynnwys y Cyhoedd y DU. Mae’n cynnwys dau offeryn pragmatig: yr Offeryn Cynllunio a’r Offeryn Olrhain.
- Rhestr Wirio o weithgareddau posibl sy’n ymwneud â chynnwys y cyhoedd a safonau perthnasol yw Offeryn Cynllunio PIRIT.
- Taenlen syml yw Offeryn Olrhain PIRIT sy’n cofnodi pryd a sut y cyfrannodd y cyhoedd, yr hyn a oedd wedi newid, pam mae hyn yn bwysig, a’r safonau cysylltiedig.
Wedi’i gyd-ddatblygu’n wreiddiol gan gyfranwyr cyhoeddus ac aelodau tîm i’w ddefnyddio yn yr MCRC a’r WCRC, profwyd PIRIT mewn tair astudiaeth ymchwil sy’n canolbwyntio ar ganser gan Brifysgol Caerdydd (er y gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw faes ymchwil); a’i fireinio mewn ymateb i adborth peilot cyn ei lansio’n gyhoeddus. Roedd yr astudiaethau peilot yn cynnwys: ‘Sut mae cymhorthion cleifion yn dylanwadu ar benderfyniadau triniaeth ar gyfer cleifion â chanser datblygedig (nad yw’n gwella)? Adolygiad realaidd cyflym,’ ‘Archwilio ffitrwydd celloedd Imiwnedd i bennu ymateb cleifion i therapi Cell-T Derbynnydd Antigen Chimerig (CAR)‘ ac astudiaeth COBra.
Mae astudiaeth COBra yn brosiect aml-gam sydd â’r nod o ddatblygu set canlyniadau craidd ar gyfer treialon tiwmorau’r ymennydd. Defnyddiwyd y ddau offeryn PIRIT yn ystod yr astudiaeth gan ymchwilwyr a’r cyhoedd a oedd yn cymryd rhan i adolygu cynlluniau a gweithgareddau cynnwys presennol. Canfuwyd bod defnyddio PIRIT wedi helpu i ysgogi trafodaethau am gynyddu’r gwahanol lefelau a mathau o gyfleoedd cynnwys sydd ar gael. Arweiniodd hyn at recriwtio pum aelod arall o’r cyhoedd i helpu i ddatblygu a phrofi’r arolwg a rhannu eu barn ar welliannau.
Dywedodd Elin Baddeley, Cydymaith Ymchwil ar yr astudiaeth a ariennir gan Elusen Tiwmor yr Ymennydd COBra:
“Roedd defnyddio PIRIT i olrhain gweithgareddau cynnwys y cyhoedd yn astudiaeth COBra yn ein galluogi i gipio, mewn amser real, y gweithgareddau cynnwys a’u heffeithiau dilynol ar ddyluniad a chyflwyniad yr astudiaeth. Ysgogodd yr offeryn drafodaethau rheolaidd ar ffyrdd y gallai’r cyhoedd gael eu cynnwys gan arwain at gynnydd yn nifer y cleifion a phartneriaid cyhoeddus a gymerodd ran, a’r amrywiaeth o ffyrdd y gwnaethant gyfrannu’n ystyrlon at gamau allweddol yr astudiaeth.”
Dywedodd Dr Daniella Holland-Hart, Ymchwilydd a ariannwyd ar y cyd gan yr MCRC a’r WCRC a ddefnyddiodd y Pecyn Cymorth fel rhan o adolygiad realaidd:
“Defnyddiwyd Pecyn Cymorth Cynnwys y Cyhoedd mewn Effaith Ymchwil hefyd yn ystod ein hadolygiad realaidd o ‘Sut mae dulliau gwneud penderfyniadau ar y cyd a chymhorthion cleifion yn dylanwadu ar benderfyniadau triniaeth ar gyfer cleifion â chanser datblygedig (nad yw’n gwella)?’ Roedd yr Offeryn yn ddefnyddiol iawn i’n helpu i gydweithio ag aelodau’r cyhoedd i olrhain eu cyfraniadau gan gynnwys sut y gwnaethant ddylanwadu ar yr ymchwil trwy gydol ein hastudiaeth. “
Fel yr unig Becyn Cymorth o’i fath, mae PIRIT wedi ennyn cryn ddiddordeb. Datgelodd ymgysylltu â’r gymuned ymchwil a chynnwys y cyhoedd wrth ddatblygu PIRIT fod galw am yr adnodd yn ehangach. O ganlyniad, lansiwyd PIRIT yn swyddogol at ddefnydd ehangach y cyhoedd yng Nghynhadledd Marie Curie ym mis Chwefror 2023.
Mae Uwch Reolwr Tîm Marie Curie ac Arweinydd Prosiect PIRIT Alisha Newman wedi myfyrio ar ganfyddiadau cychwynnol y gwaith peilot ac adborth ehangach ers y lansiad: “Mae PIRIT yn annog dull ymarferol o gynllunio, olrhain, ac adrodd am gynnwys y cyhoedd, y mae aelodau’r cyhoedd ac ymchwilwyr yn ei hoffi’n fawr. Maent hefyd yn croesawu’r ffaith ei fod yn annog arfer gorau, oherwydd bod y cynnwys yn seiliedig ar Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd. Gobeithiwn y bydd PIRIT yn cael ei ddefnyddio i helpu i gynllunio a chynnwys y cyhoedd yn ystyrlon mewn ymchwil, i fyfyrio ac adrodd ynghylch y gwahaniaeth y mae wedi’i wneud.”
I gael y newyddion diweddaraf, dilynwch @PIRIToolkit ar Twitter.