Mynd i'r cynnwys

Adroddiad newydd yn dathlu cynnydd strategaeth ymchwil canser genedlaethol gyntaf Cymru

Mae adroddiad newydd a ryddhawyd i gyd-fynd â Chynhadledd Ymchwil Canser Cymru 2026 yn amlygu effaith strategaeth ymchwil canser unedig gyntaf Cymru, dair blynedd ar ôl ei lansio.

Mae adroddiad ‘Strategaeth ymchwil canser Cymru, CReSt: Dathlu ein cynnydd ar y cyd’ yn nodi bod tair blynedd ers cyflwyno Strategaeth Ymchwil Canser Cymru (CReSt) yn 2022. Nod y strategaeth yw cryfhau ymchwil canser ar draws Cymru drwy gydweithio rhwng prifysgolion, y GIG, elusennau a phartneriaid ym myd diwydiant. 

Datblygwyd y strategaeth gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Tîm Canser Cenedlaethol (Rhwydwaith Canser Cymru gynt), a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru, gyda chymorth ystod o sefydliadau GIG ac academaidd yng Nghymru. Fe nododd weledigaeth genedlaethol a rennir i gynyddu adnoddau ymchwil, denu buddsoddiad a chyflymu darganfyddiadau sydd o fudd i gleifion ledled Cymru. 

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ystod eang o lwyddiannau ar draws Cymru ers 2022, gan gynnwys buddsoddiadau o bwys mewn ymchwil, partneriaethau cenedlaethol newydd, a datblygiadau pwysig mewn treialon clinigol.

Mae ymchwil wyddonol arloesol gan ymchwilwyr o Gymru ymhlith yr enghreifftiau a amlygwyd. Mae hyn yn cynnwys:

  • imiwnotherapi firaol newydd, TROCEPT-01, a ddatblygwyd yng Nghymru sydd wedi’i chynllunio i actifadu’r system imiwnedd yn uniongyrchol mewn tiwmorau ac sydd bellach yn cael ei phrofi yn rhan o dreial clinigol cam I
  • rhaglen newydd gwerth £2m sy’n edrych ar sut y gellid ymgorffori celloedd T gwrth-ganser y system imiwnedd mewn brechlynnau i drin canser y colon a’r rhefr.

Dywedodd yr Athro Alan Parker, Athro Feiroleg Drosi ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrif Swyddog Gwyddonol Accession Therapeutics: 

“Mae’n wych gweld y dechnoleg hon (TROCEPT-01), a ddatblygwyd yn wreiddiol yn fy labordy ym Mhrifysgol Caerdydd, yn symud ymlaen i’r cam clinigol. Mae mynd ag asiant o gam y cysyniad i’r cymhwysiad clinigol yn garreg filltir arwyddocaol i ymchwil canser yng Nghymru ac mae’n dangos yr ecosystem drosiadol ffyniannus a chyflawn y mae CReSt wedi helpu i’w meithrin yma.”

Dywedodd yr Athro Andy Godkin, gastroenterolegydd ymgynghorol ac arbenigwr blaenllaw ym maes imiwnotherapi a chanser y coluddyn: “”Rwy’n falch iawn o fod wedi sicrhau Grant Rhaglen Gwyddoniaeth Darganfod, gyda’r Athro Awen Gallimore fel cyd-ymgeisydd o CRUK, a ddyfarnwyd yn ystod hydref 2025. Bydd y grant hwn yn ysgogi ein hymchwil i ddarganfod targedau protein mewn canser y coluddyn, gan ariannu ffrwd lle rydym yn dylunio a phrofi brechlynnau sy’n defnyddio’r targedau protein hyn. Mae’r gwaith hwn yn ategu ein treial clinigol a ariennir gan Ymchwil Canser Cymru, BiCCC, sy’n archwilio modiwleiddio imiwnedd mewn cleifion ar ôl triniaeth ar gyfer canser y coluddyn. Gyda’n gilydd, rydym yn gobeithio y bydd yr astudiaethau hyn yn ysgogi manteision ystyrlon i gleifion â chanser y coluddyn yng Nghymru ac ar draws y DU.”

Mae ymchwilwyr o Gymru hefyd yn arwain ac yn cyflwyno treialon clinigol mawr gyda chymorth y Ganolfan Treialon Ymchwil, a’r nod yw gwella triniaethau i gleifion canser. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Treial OPTIMISE-FLT3, sy’n ymchwilio i driniaethau gwell ar gyfer cleifion sydd â lewcemia myeloid acíwt, sy’n fath o ganser y gwaed sy’n arbennig o ymosodol
  • Treial PICCOS, y treial rheoledig ar hap cyntaf yn y DU sy’n gwerthuso ffordd newydd o gyflwyno cemotherapi yn uniongyrchol i’r abdomen drwy ddefnyddio technoleg aerosol dan bwysau i drin canserau sydd wedi lledaenu i’r peritonewm
  • Treial PATHOS, sef treial clinigol mwyaf y byd ym maes canser y pen a’r gwddf, sy’n ymchwilio i weld a oes modd lleihau dwysedd triniaeth yn ddiogel i leihau sgîl-effeithiau hirdymor, yn ogystal â chynnal rheolaeth ragorol ar ganser.

Gyda’i gilydd, mae’r astudiaethau hyn yn amlygu’r cyfraniad cynyddol at ymchwil canser yng Nghymru a’r cyfleoedd sydd ar gael i gleifion gymryd rhan mewn treialon clinigol newydd.

Ar ben hynny, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at fuddsoddiadau mewn seilwaith ymchwil, partneriaethau newydd rhwng prifysgolion a sefydliadau’r GIG, a chynlluniau i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys datblygu Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd, sef partneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd. Ei nod yw dod ag academyddion, treialwyr clinigol a rhanddeiliaid blaenllaw ynghyd i gynnal ymchwil feiddgar a chymhleth ym maes canser yn y dyfodol ar gyfer cleifion yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro Mererid Evans, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Canser Cymru:

“Fe wnaeth lansio CReSt yn 2022 roi cyfeiriad ar y cyd ar gyfer ymchwil canser ledled Cymru.

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos sut mae ein cymuned ymchwil wedi ymateb – drwy greu partneriaethau newydd, sicrhau cyllid sylweddol a chyflawni treialon clinigol a allai wella canlyniadau i gleifion canser.”

Mae CReSt yn canolbwyntio ar gynyddu adnoddau ar draws meysydd ymchwil cryf yng Nghymru. Law yn llaw â hyn, mae’n cefnogi ymchwilwyr ar bob cam gyrfa ac yn cryfhau’r seilwaith sydd ei angen i gynnal ymchwil o’r radd flaenaf. 

Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru wedi chwarae rôl allweddol wrth gydlynu’r gwaith o gyflawni’r strategaeth, cefnogi ymchwilwyr, datblygu rhwydweithiau cydweithredol ac alinio blaenoriaethau ymchwil cenedlaethol.”

Ychwanegodd Gareth Cross, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Mae CReSt wedi rhoi gweledigaeth glir ac unedig i Gymru ar gyfer sut rydym yn hyrwyddo ymchwil canser, ac mae’r adroddiad hwn yn dangos i ba raddau y mae ein cymuned ymchwil wedi mynd i’r afael â’r her honno. Mae’r cynnydd sydd wedi’i gyflawni dros y tair blynedd diwethaf yn adlewyrchu ymrwymiad ein hymchwilwyr, y clinigwyr, y partneriaid ac – yn bwysicaf oll – y cleifion sy’n cymryd rhan mewn astudiaethau.

“Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gefnogi strategaeth sy’n cryfhau adnoddau ymchwil ledled y wlad, yn denu buddsoddiad ac yn galluogi astudiaethau arloesol i gael eu cynnal yma yng Nghymru. Mae’r ymdrech hon ar y cyd yn helpu i wneud yn siŵr bod pobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser yn gallu manteisio ar driniaethau newydd ac arloesedd drwy ymchwil o’r radd flaenaf.”

Ychwanegodd yr Athro Richard Adams, Arweinydd Ymchwil Glinigol Cenedlaethol ar gyfer y Rhaglen Mynd i’r Afael â Chanser Drwy Ymchwil:

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos y momentwm gwirioneddol rydyn ni’n ei adeiladu ym maes ymchwil canser ar hyd a lled Cymru. O ddarganfyddiadau gwyddonol arloesol i dreialon clinigol eang, rydym yn gweld ymchwil a arweinir gan Gymru a allai newid canlyniadau i gleifion.

“Yr hyn sy’n nodedig yw’r cydweithrediad rhwng prifysgolion, timau’r GIG, elusennau a diwydiant, sy’n galluogi rhaglenni gwaith uchelgeisiol na fyddai’n bosibl ar eu pennau eu hunain. Drwy barhau i fuddsoddi yn y weledigaeth hon a rennir, rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol a fydd yn gwella bywydau pobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser am flynyddoedd i ddod.”

Mae adroddiad CReSt: Dathlu ein cynnydd ar y cyd ar gael ar-lein yn Gymraeg a Saesneg ar wefan Canolfan Ymchwil Canser Cymru.