Mynd i'r cynnwys

Annog Ymchwilwyr Canser i Gynnwys Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) gan ddefnyddio’r Grŵp Ymateb Cyflym i wella llwyddiant wrth sicrhau cyllid

Wrth i ymchwilwyr ym maes canser ledled Cymru baratoi i gyflwyno cynigion am gyllid, mae Grŵp Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) wedi cyhoeddi galwad bwerus i weithredu, gan annog ymchwilwyr i gynnwys PPI cyn cyflwyno eu cynigion am gyllid i gryfhau ansawdd ac effaith eu cais ac i helpu

gyda llunio prosiectau ymchwil sy’n diwallu anghenion y gymuned yn well.

Mae’r rhan fwyaf o gyllidwyr ymchwil am weld y cyhoedd yn cael eu cynnwys yn gynnar yn y broses, ond yn y cam rhag-ariannu, gall fod yn anodd dod o hyd i honoraria ar gyfer PPI.  Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn rhoi’r cymorth hwn o’u Cronfa Galluogi Cyfranogiad ac yn cynnig gwasanaeth ariannu cyflym i ymchwilwyr ym maes canser. Mae’r Grŵp Ymateb Cyflym (RRG) yn grŵp o gleifion a gofalwyr sydd â phrofiad o ganser ac sy’n fodlon camu i’r adwy yn gyflym pan fydd ymchwilwyr angen cymorth i baratoi eu cynigion ac yn wynebu terfynau amser tynn o ran gwneud cais am gyllid.

Mae Stephanie Smits, Cymrawd Ymchwil sydd wedi’i hariannu’n rhannol gan WCRC, wedi canmol cymorth yr RRG. Fe gynorthwyodd yr RRG gyda chael adborth gan bartneriaid cyhoeddus ar ei chais ymchwil: “Cawsom gymorth arbennig gan yr RRG i nodi mewnbwn gan PPI ar gyfer cais ymchwil yr oeddem yn ei lunio. Doedd dim llawer o amser i baratoi’r cais ymchwil, a thrwy gymorth yr RRG bu’n bosib i ni gael adborth beirniadol ac adeiladol hollbwysig gan ddau bartner PPI. Roeddem yn teimlo ein bod yn cael cymorth mawr gan y Grŵp o’r dechrau i’r diwedd a byddem yn bendant yn argymell i eraill ddefnyddio’r wybodaeth a’r arbenigedd sydd gan y grŵp hwn.”

Gan fynegi brwdfrydedd dros gael ymchwilwyr i gynnwys cleifion a’r cyhoedd, dywedodd Julie Hepburn, Prif Bartner Ymchwil, Lleyg, WCRC: “Bydd ymchwilwyr ym maes canser nawr yn ystyried llunio cynigion am gyllid. Bydd cynnwys y cyhoedd mewn ffordd weithredol yn y cais yn cynyddu’r siawns o lwyddo yn sylweddol. Os yw amser yn brin, defnyddiwch ein RRG i gael yr help sydd ei angen arnoch yn gyflym.”

Os hoffech gael cymorth gan yr RRG, llenwch ffurflen gais HCRW. Unwaith y bydd y ffurflen wedi’i chwblhau, rhaid anfon ebost at Dîm Canolfan WCRC trwy wcrc@caerdydd.ac.uk a fydd yn rhoi gwybod i’r RRG am y cais ac yn dechrau’r broses recriwtio. I gael rhagor o wybodaeth am yr RRG a’r gweithdrefnau dan sylw, ewch i wefan WCRC neu ebostiwch dîm Canolfan WCRC ar y cyfeiriad ebost uchod.