Mynd i'r cynnwys

Arbenigedd mewn galluoedd imiwnoffenoteipio: tudalen we newydd yn cyfeirio ymchwilwyr at yr adnoddau sydd ar gael

Mae Dr Ellie Rad, Rheolwr Datblygu Busnes a Phartneriaethau Swyddfa Ymchwil ar y Cyd Caerdydd, wedi cynnal asesiad o alluoedd imiwnoffenoteipio o fewn y timau ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd a Chanolfan Ganser Felindre.

Mae imiwnoffenoteipio’n golygu paru gwrthgyrff penodol â chyfansoddion fflworoleuol i fesur mynegiad proteinau mewn celloedd yn union. Mae’r data hwn ar fynegiad yn hollbwysig i nodi a chategoreiddio’r celloedd wedi’u marcio.

Er mwyn tynnu sylw at arbenigedd y timau ymchwil hyn, mae Ellie, gyda chefnogaeth cydweithwyr o Brifysgol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro a’r Hwb Gwyddor Bywyd, wedi creu tudalen we i gyfeirio ymchwilwyr at adnoddau a chysylltiadau sy’n fodd i gael mynediad i brofiad sylweddol o ddefnyddio technegau imiwnoffenoteipio amrywiol, a fydd yn eu cynorthwyo, gobeithio, â’u gwaith eu hunain. Mae gwrthgyrff, celloedd T, profion feiroleg/swyddogaethol a lipidomeg ymhlith y meysydd y mae’r arbenigedd ar y dudalen we ynddyn nhw.

Mae Swyddfa Ymchwil ar y Cyd Caerdydd yn anelu at weithio mewn partneriaeth â Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd ym Mhrifysgol Caerdydd – canolbwynt arbenigedd sy’n canolbwyntio ar imiwnoleg ac imiwnotherapi. Mae’r sefydliad yn canolbwyntio ar feysydd allweddol fel canser, clefydau heintus, clefydau llidiol imiwnedd-gyfryngol a chymhlethdodau cysylltiedig. Ei nod cyffredinol yw hyrwyddo iechyd y cyhoedd drwy fod ar flaen y gad o ran diagnosteg a thriniaethau newydd ar gyfer clefydau, wrth chwarae rhan hanfodol hefyd yn y gwaith o addysgu’r cyhoedd a meithrin y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr.