Dr James Powell, ymgynghorydd ym maes niwro-oncoleg yng Nghanolfan Ganser Felindre, yw arweinydd thema CReSt ar gyfer radiotherapi. Mae’n rhannu ei syniadau am bwysigrwydd cydweithredu ym maes ymchwil radiotherapi, ledled Cymru.
“Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous a diddorol i fod yn rhan o ymchwil ym maes radiotherapi. Mae datblygiadau technolegol gyda pheiriannau radiotherapi yn caniatáu trin cleifion mewn modd mwy manwl, i fod yn fwy effeithiol a gyda llai o sgîl-effeithiau nag erioed o’r blaen.
Yn driniaeth hirsefydlog ar gyfer canser, mae radiotherapi eisoes yn rhan bwysig o’r driniaeth ymhlith tua 50% o gleifion â chanser. Mae ymchwil ym maes radiotherapi yn ymdrech tîm enfawr; mae ymchwilwyr o lawer o wahanol arbenigeddau yn rhan o’r gwaith, gan gynnwys meddygon, ffisegwyr, radiograffwyr a gwyddonwyr sy’n gweithio, er enghraifft, ym maes geneteg ac imiwnoleg.
Mae’r gwaith ymchwil hwn yn sicrhau bod effeithiolrwydd triniaeth radiotherapi yn parhau i gael ei wella, er enghraifft drwy gyfuno radiotherapi â thriniaethau eraill megis cyffuriau wedi’u targedu neu wella manylder radiotherapi drwy ddefnyddio’r technegau delweddu diweddaraf a mwyaf modern a lleihau sgil-effeithiau posibl. Credwn y bydd datblygiadau yn y meysydd hyn yn cael effaith sylweddol ar ymchwil ym maes radiotherapi yn y blynyddoedd i ddod.
Mae gan Gymru hanes da o arwain treialon clinigol sy’n asesu effeithiolrwydd triniaethau radiotherapi newydd. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn adeiladu’r Ganolfan Ganser newydd yn Felindre a chanddi ystod o offer radiotherapi o’r radd flaenaf. Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous ar gyfer datblygu radiotherapi yng Nghaerdydd a Chymru, ac mae’n cynnig potensial i’r offer a’r dechnoleg newydd hon fod o fudd i gleifion ledled Cymru.
Dros y blynyddoedd nesaf, ein nod yw datblygu’r seilwaith ymchwil ym maes radiotherapi a chefnogi a meithrin cydweithio rhwng ymchwilwyr a chlinigwyr yng Nghymru. Credwn y bydd hyn yn annog syniadau ymchwil newydd ym maes radiotherapi ac yn helpu i ddatblygu ymchwil ym maes radiotherapi ledled Cymru.
Ein nod yw rhoi cyfleoedd ar gyfer cymrodoriaethau clinigol a chefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa gydag amser ar gyfer ymchwil ym maes radiotherapi, gan gefnogi datblygiad gyrfa yn y maes. Rydym yn gobeithio cefnogi a datblygu meysydd unigryw o gryfder o ran ymchwil ym maes radiotherapi yng Nghymru, gan ategu ein hanes sefydledig o arwain ym maes ymchwil radiotherapi clinigol. Bydd adeiladu ar y meysydd cryfder hyn yn ein galluogi i fod yn fwy cystadleuol wrth wneud ceisiadau am gyllid yn y dyfodol.
Rydym wedi ymrwymo i gynnwys cleifion a’r bobl sy’n gofalu amdanynt wrth ddylunio astudiaethau ymchwil newydd ym maes radiotherapi. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio’n gadarn ar y meysydd ymchwil sy’n bwysig i gleifion a bod cleifion yn parhau i lywio’r astudiaethau ymchwil y maent yn cymryd rhan ynddynt, gan wneud y mwyaf o gyfranogiad cleifion mewn astudiaethau ymchwil ym maes radiotherapi yng Nghymru.”