Mynd i'r cynnwys

Cynhadledd Ymchwil Canser Cymru

Mae cynhadledd flynyddol y Ganolfan Ymchwil Canser Cymru yn dod ag ymchwilwyr a rhanddeiliaid ynghyd o bob rhan o’r DU. 

Ynglŷn â’r gynhadledd

Mae Cynhadledd Ymchwil Canser Cymru 2025 yn gyfle i ymchwilwyr canser yng Nghymru ymgynnull ar draws arbenigeddau, sefydliadau a meysydd ymchwil. Gyda siaradwyr o Gymru a’r DU, bydd cyflwyniadau’n ymdrin â’r datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil canser, a bydd cyfleoedd i ymwneud â chydweithwyr yn helpu i ysgogi partneriaethau yn y dyfodol.

Cyfleoedd noddi

Mae Cynhadledd Ymchwil Canser Cymru yn cynnig cyfleoedd noddi gwerthfawr i sefydliadau sydd am gysylltu ag ymchwilwyr blaenllaw, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a llunwyr polisïau ym maes ymchwil canser. Trwy fod yn noddwr, gallwch chi arddangos eich brand, tynnu sylw at eich ymrwymiad i hyrwyddo ymchwil canser, ac ymgysylltu’n uniongyrchol â rhanddeiliaid allweddol. Mae ein pecynnau nawdd wedi’u teilwra yn cynnig gwelededd rhagorol trwy fannau arddangos, cyfleoedd i siarad, a deunyddiau hyrwyddo. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn nigwyddiad 2026 cysylltwch â ni.

Cynhadledd Ymchwil Canser Cymru 2026

Ddydd Llun 23 Mawrth 2026 byddwn yn cynnal ein trydydd Gynhadledd Ymchwil Canser Cymru yng Ngwesty’r Dyffryn yn Hensol, Bro Morganwg.

Bydd cofrestru’n agor ddechrau mis Hydref 2025.

Crynodebau a gyflwynwyd 2025

Cynhaliodd Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) ail gynhadledd flynyddol Ymchwil Canser Cymru ar 3 Mawrth 2025, gan arddangos ehangder yr ymchwil sydd ar waith ledled Cymru. Gwnaethon ni dderbyn nifer helaeth o gyflwyniadau crynodeb yn amlygu amrywiaeth eang a chynhwysfawr y gwaith ymchwil sy’n cael ei gynnal yma yng Nghymru. Cyflwynwyd pob crynodeb yn unol ag un o themâu CReSt [link to CReSt]:

  • Thema 1: Oncoleg fecanistig a manwl
  • Thema 2: Imiwno-oncoleg
  • Thema 3: Radiotherapi
  • Thema 4: Treialon clinigol canser
  • Thema 5: Oncoleg gefnogol a lliniarol
  • Thema 6: Ymchwil yn ymwneud ag atal, canfod cynnar, gofal sylfaenol a gwasanaethau iechyd

Isod mae teitlau, awduron a sefydliadau’r holl grynodebau a gyflwynwyd.
Yn dilyn proses adolygu a gynhaliwyd gan ein harweinwyr themâu academaidd ac aelodau o’r rhwydwaith i unigolion ar ddechrau ac ar ganol eu gyrfaoedd, dewiswyd un person fesul thema i gyflwyno crynodeb llafar yn y gynhadledd – mae’r rhain wedi’u rhestru o dan y pennawd ‘crynodebau sgyrsiau sydyn’, ac oddi tanyn nhw mae’r holl grynodebau eraill a gyflwynwyd ar ffurf posteri i’r gynhadledd, wedi’u rhannu yn ôl thema CReSt.

Newyddion diweddaraf