Mynd i'r cynnwys

Dr Amy Case, cyn-Gymrawd Ymchwil a ariannwyd gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, yn ennill Gwobr Ymchwil, Gwelliant ac Arloesedd FRCR Caerdydd

Dr Amy Case

Mae Dr Amy Case, meddyg hyfforddiant arbenigol oncoleg glinigol yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru yn Abertawe a chyn-Gymrawd Ymchwil a ariannwyd gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, wedi ennill Gwobr Ymchwil, Gwelliant ac Arloesedd FRCR Caerdydd am ei gwaith ar radiotherapi gastrig yn y DU.

Roedd y gystadleuaeth yn agored i bob cofrestrydd arbenigol ym meysydd oncoleg, radioleg a gofal lliniarol ar draws De-ddwyrain Cymru, a gwahoddwyd crynodebau o unrhyw brosiect sy’n canolbwyntio ar ymchwil, gwella/archwilio ac arloesedd. Barnwyd y prosiectau ar sail eu newydd-deb, eu hymrwymiad, eu heffaith a’u dichonoldeb.

Yn ystod y seremoni wobrwyo, cyflwynodd Amy ei gwaith ar rôl radiotherapi ar gyfer trin canser gastrig (y stumog). Canser gastrig yw un o’r canserau llai goroesadwy yng Nghymru – dim ond 18.3% yw’r gyfradd goroesi 5-mlynedd. Ar hyn o bryd, yr unig driniaeth sydd ar gael i geisio gwella canser gastrig yw llawdriniaeth (wedi’i chyfuno â chemotherapi, fel arfer). Ar gyfer y cleifion hynny na allant gael llawdriniaeth, nid oes unrhyw opsiynau eraill ar gael ar hyn o bryd i geisio gwella eu canser. Nid yw radiotherapi’n opsiwn trin radical safonol ar hyn o bryd ar gyfer claf â chanser gastrig anllawdriniadwy, ac mae Amy a’i thîm yn edrych i weld a allai chwarae rôl yn y cyd-destun hwn. 

Dywedodd Amy: “Mae fy ngwaith wedi cynnwys gwneud adolygiad cynhwysfawr o’r holl ymchwil sydd wedi’i gwneud i hyn yn barod ledled y byd, yn ogystal â gwneud arolwg o safbwyntiau oncolegwyr ledled y DU ar radiotherapi gastrig a cheisio gweld a fyddent yn cefnogi treial clinigol yn y dyfodol. Rwyf nawr yn cynnal astudiaethau i sefydlu’r dechneg orau ar gyfer rhoi dosau uchel o radiotherapi i’r stumog yn ddiogel ac yn effeithiol.” 

Canfu’r arolwg y byddai 76.7% o oncolegwyr clinigol a holwyd yn y DU o blaid datblygu treial clinigol i ymchwilio i rôl radiotherapi ar gyfer trin canser gastrig anfetastatig ac anllawdriniadwy.

Dywedodd Amy: “Roeddwn yn falch iawn o ddod yn gyntaf am fy nghrynodeb o’r enw ‘Gastric Radiotherapy in the UK – Current Practice and Opinion on Future Directions.’ Nod y prosiect ymchwil hwn yn y pen draw yw datblygu treial clinigol i ymchwilio i rôl radiotherapi ar gyfer trin canser gastrig anfetastatig ac anllawdriniadwy – y treial clinigol ar hap cyntaf yn y maes hwn, yma yn y DU.”