Yn ddiweddar bu Dr Mat Clement, Cymrawd Ymchwil Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn arwain ar weithgaredd allgymorth cyhoeddus cyffrous yn Ysgol Gynradd Parc Jenner. Y nod penodol oedd ennyn diddordeb disgyblion Blwyddyn 6 ym myd hynod ddiddorol gwyddoniaeth a meddygaeth. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn rhan o ymdrech barhaus i addysgu plant 8-11 oed am y system imiwnedd ac i herio syniadau rhagdybiedig am wyddonwyr a chlinigwyr.
Roedd yn cynnwys pedair gorsaf ryngweithiol er mwyn i ddisgyblion archwilio gwahanol agweddau ar y system imiwnedd a rheoli heintiau trwy weithgareddau ymarferol.
“Creu Llysnafedd “oedd hoff orsaf y disgyblion, lle dysgon nhw am arwyddocâd lliw llysnafedd wrth wneud diagnosis o heintiau. Cafodd y plant hwyl yn creu gwahanol samplau o lysnafedd gyda’r cynhwysion. Roedden nhw wrth eu bodd yn cymryd rhan ymarferol yn y gweithgaredd budr ond addysgol hwn.
Yn yr orsaf “Pa mor Lân Yw Eich Dwylo?” roedd disgyblion yn swabio eu dwylo cyn ac ar ôl eu golchi, gan ddefnyddio platiau agar i ddangos pwysigrwydd hylendid dwylo priodol er mwyn atal heintiau. Roedd yr arddangosiad gweledol hwn yn ffordd effeithiol o gyfleu pwysigrwydd golchi dwylo i gadw’n iach.
Roedd yr “Orsaf Microsgop” yn gyfle i’r disgyblion edrych yn fanwl ar sleidiau gwaed trwy ficrosgopau rhyngweithiol gyda sgriniau, ac yna nodi gwahanol gelloedd imiwnedd. Roedd yr orsaf hon yn gyfle unigryw i’r plant weld blociau adeiladu’r system imiwnedd yn uniongyrchol.
Roedd yr orsaf “Dylunio Eich Germ Eich Hun” yn annog creadigrwydd . Creodd y disgyblion eu germau eu hunain gan ddefnyddio plastisin neu drwy greu darluniau. Bu’r disgyblion yn trafod sut y gallai’r germau hyn weithredu ac effeithio ar wahanol rannau o’r corff. Gwnaeth hyn helpu i chwalu rhwystrau am eu barn am wyddonwyr a chlinigwyr, gan hyrwyddo cynwysoldeb yn y meysydd hyn.
Trwy gydol y dydd, roedd y plant yn gwisgo cotiau labordy, gogls, a menig. Ychwanegodd hyn at hwyl a dilysrwydd y profiad gwyddonol. Dywedodd Dr Clement, “Mae bob amser yn hyfryd gweld y plant wedi gwisgo’n briodol ac yn barod ar gyfer gweithgareddau gwyddonol, hyd yn oed os ydyn nhw’n cael trafferth gwisgo’u menig!”
Roedd yr adborth gan y disgyblion a’r athrawon yn gadarnhaol dros ben, gyda llawer yn egluro eu bod wedi mwynhau’r diwrnod yn fawr a bod hyn wedi ennyn diddordeb newydd mewn gwyddoniaeth. Mae Dr Clement wedi’i wahodd yn ôl ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf, lle maen nhw’n gobeithio ysbrydoli grŵp arall o ddarpar wyddonwyr.