Mynd i'r cynnwys

Gwobr Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa

Ar gyfer unigolion brwdfrydig iawn sy’n dod i ddiwedd eu PhD, ac sydd am ddilyn gyrfa ymchwil annibynnol mewn maes ymchwil canser y maen nhw’n angerddol amdano.

Galwad Gwobr Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa Canolfan Ymchwil Canser Cymru nawr ar agor! 

Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn falch o lansio’r Wobr Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa, ar gyfer unigolion brwdfrydig iawn sy’n dod i ddiwedd eu PhD, ac sydd am ddilyn gyrfa ymchwil annibynnol mewn maes ymchwil canser y maen nhw’n angerddol amdano. 

Rydyn ni’n falch o gynnig cyflog a nwyddau traul am 6-12 mis ar gyfer ymchwil lle gall deiliaid gwobrau gynhyrchu data rhagarweiniol, creu modelau, neu ddatblygu sgiliau wrth iddyn nhw baratoi a chyflwyno ceisiadau i sicrhau cyllid dilynol iddyn nhw eu hunain. 

  • Statws: Ar Agor 
  • Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 30 Gorffennaf 2025 (hanner dydd) 
  • Gwahoddiadau i gyfweliadau: 26 Awst 2025 
  • Cyfweliadau: 4 Medi 2025 
  • Dyddiad dechrau’r cyllid: Hydref 2025 – Chwefror 2026 

Gellir lawrlwytho canllawiau ymgeisio yma [LINK], ac maen nhw’n rhoi’r wybodaeth ganlynol:  

  • Trosolwg o’r Wobr Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa  
  • Meini prawf cymhwystra 
  • Cyllid a chostau cymwys  
  • Allbynnau gofynnol 
  • Proses ddethol a meini prawf 
  • Gofynion cyflwyno a sut i wneud cais 

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais!