Mynd i'r cynnwys

Hwb ariannol o £5k ar gyfer ymchwil newydd i ganser y pancreas

Dr Garan Jones

Mae Dr Garan Jones, Cymrawd Ymchwil Strategaeth Ymchwil Canser Cymru (CReSt), wedi cael £5000 gan Therapïau Uwch Cymru (ATW) i gynnal astudiaeth arloesol gyda’r nod o hyrwyddo opsiynau triniaeth ar gyfer canser y pancreas, yn benodol Adenocarcinoma y Ddwythell Pancreatig (PDAC). 

Mae’r math hwn o ganser yn ymosodol iawn ac yn anodd ei drin, gan olygu bod angen triniaethau newydd ar frys. Bydd Dr Jones yn defnyddio technoleg flaengar Oxford Nanopore, sy’n galluogi dadansoddiad manwl o RNA mewn celloedd tiwmorau. Ei nod yw adnabod newidiadau penodol yn yr RNA a allai fod yn dargedau ar gyfer triniaethau newydd, megis brechlynnau RNA neu therapïau sy’n tawelu genynnau niweidiol. Gallai’r dull hwn fod yn sail i driniaethau mwy manwl gywir ac effeithiol ar gyfer canser y pancreas yn y dyfodol.

Dywedodd Dr Jones: “Yn dilyn ymlaen o’n gwaith blaenorol ar diwmorau niwroendocrin pancreatig, lle’r oedd y dechnoleg drawsgrifiomig hir-ddarllen rydyn ni’n ei defnyddio yn ein galluogi i adnabod sawl isofform RNA newydd, byddwn ni’n defnyddio’r technegau hyn i astudio tiwmorau PDAC yn yr astudiaeth beilot hon. Gobeithiwn ni ddefnyddio hyn yn sail ar gyfer prosiect ehangach yn y dyfodol”.

Mae hwn yn brosiect ar y cyd; Bydd Dr Harsh Bhatt, niwrolawfeddyg yn Ysbyty Felindre, yn cyd-arwain yr ymchwil, gan ddatblygu’r dulliau ochr yn ochr â Dr Jones. Byddan nhw hefyd yn gweithio gyda’r Athro Bilal Al-Sarireh o Brifysgol Abertawe. 

Bydd y samplau canser sydd eu hangen ar gyfer yr astudiaeth yn cael eu darparu gan Fanc Canser Cymru, gyda dilyniannu yn cael ei wneud yn DeepSeq, labordy arbenigol ym Mhrifysgol Nottingham.

Y gobaith yw y gallai’r astudiaeth beilot hon osod y sylfaen ar gyfer triniaethau canser arloesol, a allai wella cyfraddau goroesi ar gyfer y rhai sy’n cael diagnosis o PDAC.