Mynd i'r cynnwys

Mae Dr James Powell, ymchwilydd yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru, yn recriwtio cleifion ar gyfer treial arloesol o’r enw ARISTOCRAT i drin tiwmorau ar yr ymennydd yng Nghanolfan Ganser Felindre.

Dr. James Powell

Mae treial clinigol pwysig ledled y DU sy’n defnyddio cyffur sy’n deillio o ganabis i drin tiwmorau ymosodol ar yr ymennydd bellach wedi’i lansio yng Nghanolfan Ganser Felindre. 

Mae’r treial Cam II 3-blynedd o’r enw ARISTOCRAT wedi’i ariannu gan The Brain Tumour Charity ac yn cael ei arwain gan yr oncolegydd ymgynghorol Jillian Maclean yng Nghanolfan Ganser Felindre. Yn cydweithio â hi mae Dr James Powell, arweinydd tîm niwro-oncoleg ac ymchwilydd yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru sydd wrthi’n recriwtio cleifion. 

Mae’r tîm ymchwil wedi cyrraedd y garreg filltir o gofrestru ei glaf cyntaf, gan obeithio’n fawr y bydd rhagor o bobl yn cymryd rhan yn y dyfodol. Nod y treial yw recriwtio dros 230 o gleifion â glioblastoma o 14 o ysbytai’r GIG ym Mhrydain Fawr yn 2023. Yn rhan o’r treial, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn rhoi i’w hunain y cyffur Nabiximols (Sativex), sy’n deillio o ganabis, neu chwistrelliad plasebo drwy’r geg. Byddant wedyn yn cael apwyntiadau dilynol yn rheolaidd, gan gynnwys profion gwaed a sganiau MRI wedi’u cynnal gan dîm y treial clinigol.

Dywedodd Dr James Powell: “Yn anffodus, mae’r canlyniadau i gleifion â glioblastoma di-baid yn parhau i fod yn wael. Felly, mae gallu cynnig y treial pwysig hwn i’r cleifion hyn yn galonogol iawn. Mae gallu cynnig triniaethau ychwanegol i’r cleifion hyn yn bwysig, ac mae’r treial hwn hefyd yn mynd i’r afael â’r cwestiwn clinigol pwysig ynghylch y defnydd o feddyginiaeth sy’n seiliedig ar ganabis i drin cleifion â thiwmorau ar yr ymennydd. 

Glioblastoma yw’r math mwyaf ymosodol o ganser yr ymennydd ac, fel arfer, mae cleifion yn byw llai na 10 mis ar gyfartaledd ar ôl i’r canser ddychwelyd. Mae canlyniadau calonogol treial Cam I yn 2021, a oedd yn cynnwys 27 o gleifion, yn dangos bod Nabiximols, pan fydd wedi’i gyfuno â chemotherapi, yn cael eu goddef yn dda gan gleifion a bod ganddo’r potensial i ymestyn bywydau cleifion â glioblastoma di-baid. 

Os bydd y treial yn llwyddiannus, bydd Nabiximols yn driniaeth ychwanegol bwysig i gleifion â glioblastoma – datblygiad arwyddocaol ers cyflwyno’r cyffur cemotherapi Temozolomide yn 2007.