Mynd i'r cynnwys

Menter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd yn darparu cyllid newydd ar gyfer ymchwil yng Nghymru

Llun: Dr James Powell, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre ac Academydd Clinigol yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC)

Mae Dr James Powell, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre ac Academydd Clinigol yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), wedi cael ei benodi’n Arweinydd Clinigol Menter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd (BATRI), cronfa ymchwil newydd i diwmorau’r ymennydd, a sefydlwyd gan Ymchwil Canser Cymru .

Yr arweinydd gwyddonol ar gyfer BATRI ydy Dr Florian Siebzehnrubl, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Bôn-gelloedd Ewrop.

Nod BATRI, y cyntaf i Gymru, ydy dod ag arweinwyr academaidd a chlinigol at ei gilydd i ddatblygu ac adeiladu nifer o bosiectau ymchwil ffyniannus i diwmorau’r ymennydd yng Nghymru. 

“Rwy’n falch o fod yn arwain ar y fenter genedlaethol wych hon a fydd yn ein galluogi i ddatblygu ymchwil newydd ac arloesol i diwmorau’r ymennydd yng Nghymru a fydd, gobeithio,yn cefnogi canlyniadau gwell i gleifion sydd â thiwmorau ar yr ymennydd.

“Bob blwyddyn yng Nghymru, mae mwy na 400 o bobl yn datblygu tiwmor ar yr ymennydd ond yn anffodus, ychydig iawn o driniaethau newydd ar gyfer tiwmorau ar yr ymennydd sydd wedi’u datblygu yn y 40 mlynedd diwethaf.

“Gyda’r gefnogaeth sylweddol hon gan Ymchwil Canser Cymru, mae gennym gyllid pwysig, cynaliadwy erbyn hyn, i osod ymchwil i diwmorau’r ymennydd ar blatfform cenedlaethol, a gwneud cynnydd go iawn,” meddai Dr James Powell.

Yn hanesyddol, mae ymchwil i diwmorau’r ymennydd wedi cael ei danariannu, ac wedi derbyn llai na 2% o gyllid bob blwyddyn i ymchwilio i ganser yn y DU.

Bydd Ymchwil Canser Cymru yn rhoi £1m y flwyddyn i BATRI dros y tair blynedd nesaf. Yn 2023-2024, bydd un alwad am gyllid, ond yn y pen y draw, bydd y galwadau am gyllid yn agor ddwywaith y flwyddyn, gyda gwahoddiad am geisiadau gan ymchwilwyr sydd â chynigion newydd ac arloesol o ymchwil i diwmorau’r ymennydd.

Dywedodd Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil, Ymchwil Canser Cymru:

“Fel unig elusen ymchwil canser annibynnol Cymru, mae Ymchwil Canser Cymru yn falch o sefydlu’r fenter ymchwil bwysig hon, sydd ag arwyddocâd strategol i Gymru gyfan.  

Bydd ein buddsoddiad hirdymor mewn ymchwil i diwmorau’r ymennydd yn sicrhau y bydd y clinigwyr a’r gwyddonwyr dawnus sydd gennym yn gweithio yn y maes, yn cael yr adnoddau angenrheidiol i wneud gwahaniaeth.