Mae Ganolfan Ymchwil Canser Cymru yn falch o gadarnhau y bydd yn derbyn gwerth £4,866,172 o gyllid cynaliadwyedd mewn cyhoeddiad o bwys gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru heddiw (27 Ionawr).
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi cyllid Seilwaith Datblygu Ymchwil ar gyfer 17 canolfan ymchwil ledled Cymru, gan gynnwys pum sefydliad newydd. Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu ar draws dau gategori – gwobrau cynaliadwyedd, ar gyfer grwpiau a ariennir ar hyn o bryd er mwyn cynnal modelau ymarfer effeithiol a chefnogi llwybr tuag at hunan-gynaliadwyedd, a dyfarniadau catalytig er mwyn hybu capasiti a gallu mewn meysydd o angen iechyd a gofal a chryfder ymchwil newydd Cymru sy’n dod i’r amlwg.
Y rhestr lawn o ganolfannau a fydd yn derbyn arian yw:
Cyllid Cynaliadwyedd
- Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (£2,999,894)
- Canolfan Ymchwil Canser Cymru (£4,866,172)
- Cronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) (£4,551,338)
- Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (£2,996,483)
- Biofanc Canser Cymru (£2,363,320)
- Economeg Iechyd a Gofal Cymru (£1,865,815)
- Partneriaeth Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (Partneriaeth CASCADE) (£2,999,636)
- Canolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ar gyfer Gwella Iechyd Cyhoeddus (DECIPHer) (£2,886,936)
- Canolfan NiwroTherapïau Uwch (£2,856,309)
- Uned Ymchwil Arennau Cymru (£2,984,527)
- Canolfan Treialon Ymchwil (£4,742, 424)
- Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol (£2,073,161)
Cyllid Catalytig
- Uned Firoleg Gymhwysol Cymru (£3,000,000)
- Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed (£2,085,939)
- Canolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (£1,815,416)
- Canolfan Rhagoriaeth Ymchwil Iechyd Menywod Cymru (£3,013,936)
- Canolfan Ymchwil Gwasanaethau Golwg (£1,746,729)
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae gan ymchwil rôl hanfodol i’w chwarae wrth ein helpu i gyflawni ein nod o Gymru Iachach. Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig mewn meysydd ymchwil newydd a chyffrous, gan gynnwys iechyd menywod; atal hunanladdiad a hunan-niweidio a DA – rwy’n gobeithio y bydd yn darparu tystiolaeth go iawn dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn helpu i lunio gwasanaethau a gofalu am bobl ledled Cymru.”
Dywedodd Michael Bowdery, Cyd-gyfarwyddwr Dros Dro yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phennaeth Isadran Rhaglenni, Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn ein seilwaith a ariennir yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, ac mae’n adlewyrchu ein huchelgais i ddatblygu gallu ymchwil sy’n cyd-fynd ag angen iechyd a chymdeithasol sydd heb ei ddiwallu mewn meysydd polisi allweddol.
“Mae ein dull o ddarparu’r cyllid hwn yn seiliedig ar ddau faen prawf – yn gyntaf, lle mae angen ymchwil a thystiolaeth glir a chymhellol yn y maes ar gyfer Llywodraeth Cymru, y GIG a’r system gofal cymdeithasol yng Nghymru; ac yn ail, lle mae gallu a chapasiti ymchwil cryf neu sy’n dod i’r amlwg yn yr ardal.
“Mae’r canolfannau hyn yn ymgorffori’r egwyddor o ymchwil sydd â’r pŵer i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl, ac rydym yn falch o allu cefnogi eu gweithgarwch yn y maes hwn.”
DIWEDD
Nodiadau
Ar gyfer unrhyw ymholiad pellach, cysylltwch â Tom Wilson, Rheolwr Cyfathrebu, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: Tom.wilson@wales.nhs.uk.
Ynglŷn ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yw cangen gyflenwi a brand allanol Is-adran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â’r GIG, prifysgolion, llywodraeth leol, cyllidwyr ymchwil eraill, cleifion a’r cyhoedd i ariannu, cefnogi a chynyddu ymchwil a all drawsnewid bywydau, hybu twf economaidd a datblygu gwyddoniaeth.
Am fwy o wybodaeth ewch i: https://ymchwiliechydagofalcymru.org