
Yr Athro Tom Crosby OBE oedd un o ffigurau mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth ym maes gofal canser yng Nghymru. Trwy ei weledigaeth, ei arweinyddiaeth, a’i ymroddiad, helpodd i drawsnewid gwasanaethau canser yng Nghymru a gwella bywydau cleifion a theuluoedd di-ri.
Roedd parch rhyngwladol i’r Athro Crosby am ei ymchwil i wella triniaethau ar gyfer canserau yr oesoffagws a chanserau eraill yn rhan uchaf y llwybr gastroberfeddol, ac roedd yn meddu ar yr un ymrwymiad i wella canlyniadau cleifion a chanser trwy alluogi diagnosis cynharach, arloesi a gwella gwasanaethau. Trwy gydol gyrfa nodedig yn rhannu ei amser rhwng ymarfer clinigol, ymchwil ac arweinyddiaeth genedlaethol, roedd yn hyrwyddo’r egwyddor y gallai diagnosis cynharach o ganser wella cyfraddau goroesi a phrofiad y cleifion.
Fel Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru ac uwch arweinydd yn Rhwydwaith Canser Cymru, gosododd yr Athro Crosby ddiagnosis cynnar wrth wraidd polisi canser a datblygu gwasanaethau. Helpodd ei arweinyddiaeth i lunio nifer o strategaethau canser cenedlaethol, cryfhau llwybrau diagnostig a lleihau oedi rhwng atgyfeirio, diagnosis a thriniaeth. Un o’i gyflawniadau allweddol oedd ei rôl yn datblygu’r Llwybr Canser Sengl, a drawsnewidiodd y ffordd mae gwasanaethau canser yng Nghymru yn monitro a gwella taith y claf. Trwy ganolbwyntio ar y llwybr rhwng yr amheuaeth gyntaf o ganser hyd at ddiagnosis a thriniaeth, roedd yn galluogi gwasanaethau i nodi unrhyw oedi a chyflymu mynediad at ofal. Mae’n parhau’n gonglfaen i’r ymdrechion i gael diagnosis cynharach yng Nghymru.
Roedd yr Athro Crosby hefyd yn eiriolwr angerddol dros ymchwil a gwelliannau wedi’u seilio ar dystiolaeth. Trwy ei waith gyda mentrau megis y Bartneriaeth Meincnodi Canser Ryngwladol, helpodd i ddod â dysgu rhyngwladol i Gymru a hyrwyddo’r defnydd o dystiolaeth i ysgogi gwelliannau mewn gofal canser. Hefyd roedd yn cefnogi gwaith yn amrywio o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd a gwiriadau iechyd yr ysgyfaint i raglenni sgrinio a llwybrau diagnostig cyflymach.
“Mae Tom yn gadael gwaddol parhaol mewn ymchwil a gofal canser ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Roedd yn gefnogwr brwdfrydig ac angerddol i’r ICBP am bron i ddeng mlynedd cyn ymuno â Bwrdd y Rhaglen chwe blynedd yn ôl. Roedd wir yn byw ein cenhadaeth, gan sicrhau bod ein canfyddiadau, a’r gwersi a ddysgwyd gan awdurdodaethau eraill, yn sbarduno newid polisi ac ymarfer yng Nghymru. Bydd tîm ICBP yma yn CRUK yn gweld eisiau Tom yn fawr, ac rwy’n gwybod bod yr un peth yn wir am lawer o gydweithwyr ar draws y bartneriaeth a thu hwnt.”
Dywedodd Samantha Harrison, Pennaeth Tystiolaeth Strategol ac Arweinydd y Bartneriaeth Meincnodi Canser Ryngwladol (ICBP), Cancer Research UK
Trwy ei yrfa ymchwil, gwnaeth yr Athro Crosby gyfraniad sylweddol a pharhaol tuag at wella canlyniadau cleifion â chanser yr oesoffagws a chanserau eraill yn rhan uchaf y llwybr gastroberfeddol. Ef oedd Prif Ymchwilydd grŵp treialon aml-ganolfan SCOPE yn y DU (SCOPE1, NeoSCOPE a SCOPE2), a osododd safonau gofal newydd ar gyfer cynllunio a darparu radiotherapi ar gyfer canser yr oesffagws; mae’r rhain wedi dylanwadu ar driniaethau ledled y DU a thros y byd. Ei dreial olaf, SCOPE2, yw’r treial mwyaf yn y byd hyd yma sy’n ymchwilio i radiotherapi diffiniol ar gyfer canser yr oesoffagws; yn anffodus, ni fydd yn gweld canlyniadau terfynol y treial, ond bydd ei etifeddiaeth – ac etifeddiaeth yr holl ymchwil a arweiniodd ac a ysbrydolodd – yn parhau i wella canlyniadau cleifion ymhell i’r dyfodol.
Ef oedd y sbardun y tu ôl i Grŵp Canser yr Oesoffagws a’r Stumog yn y DU ac Iwerddon (UKIOG), sefydliad aml-broffesiynol lle mae clinigwyr, ymchwilwyr a chleifion yn cydweithio i wella gofal, triniaeth a chanlyniadau cleifion â chanser yr oesoffagws a’r stumog. Bydd ei gyfraniad rhyfeddol i’r gymuned sy’n ymwneud â chanserau rhan uchaf y llwybr gastroberfeddol yn y DU yn parhau drwy waith y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr a chlinigwyr canser a gafodd eu cefnogi, eu mentora a’u hysbrydoli ganddo, yng Nghymru ac ar draws y DU.
“Cefais y fraint o weithio ochr yn ochr â Tom am 17 mlynedd, yn gyntaf o dan ei hyfforddiant (lle ysbrydolodd fy mhenderfyniad i arbenigo mewn canserau’r oesoffagws a’r stumog), ac yna fel cyd-ymgynghorydd yn Ne Cymru. Mae wedi parhau i ddylanwadu ar fy ngyrfa glinigol ac academaidd ers hynny. Dysgodd gymaint i mi am fod yn glinigwr ac yn ymchwilydd rhagorol, gan ddatblygu cwestiynau ymchwil sy’n deillio o’r gwaith clinigol. Mae cymaint o bethau rwy’n ddiolchgar iddo amdanynt, ond un uchafbwynt diweddar yw ei rôl yn natblygiad treial GastroSCOPE, a gafodd gyllid yn ddiweddar. Cofiaf yn glir iawn i mi gyflwyno’r syniad cyntaf un iddo a’i ymateb cadarnhaol. Lluniodd a chryfhaodd ei gefnogaeth ddi-ildio a’i ddoethineb dros y blynyddoedd hynny gynllun y treial. Yn anffodus, ni fydd ei rôl fel mentor i’r prif ymchwilwyr yn cael ei gwireddu, ond bydd ei etifeddiaeth yn byw ymlaen trwy genhedlaeth o ymchwilwyr a feithrinwyd ganddo.”
Dr Sarah Gwynne, Ymgynghorydd Oncoleg Glinigol yn arbenigo yn maes canserau rhan uchaf y llwybr gastroberfeddol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
Mae’r rhai a fu’n gweithio gyda Tom yn cofio nid yn unig ei ddeallusrwydd a’i arweinyddiaeth, ond hefyd ei haelioni, ei gynhesrwydd a’i gefnogaeth ddiwyro tuag at ei gydweithwyr. Ysbrydolodd glinigwyr, ymchwilwyr a llunwyr polisi, gan hyrwyddo cydweithio ac annog eraill i fynd ar drywydd gwelliannau uchelgeisiol mewn gofal canser ledled Cymru.
“Roedd Tom yn byw bywyd i’r eithaf ac yn cyfoethogi popeth roedd yn ei gyffwrdd – o godi arian, ei angerdd am rygbi a seiclo dygnwch i ofal, ymchwil a pholisi canser. Roedd yn arweinydd clinigol diflino gyda gweledigaeth brin i newid y system gyfan o ran gofal canser yng Nghymru. Ef oedd yr ysbrydoliaeth a’r glud a ddaeth â llais y claf, y GIG, y llywodraeth, elusennau, a’r byd academaidd ynghyd ar gyfer diwygio gofal canser ar sail tystiolaeth. Doedd Tom byth yn derbyn y status quo. Fe’n heriodd ni yn WCISU i wella ein gêm, gan bwysleisio’r angen am well data a mewnwelediadau ac i flaenoriaethu ein meincnodi rhyngwladol ac ymchwil yn y gwasanaethau iechyd fel ICBP. Roedd Tom bob amser yn ein cefnogi ni a’n hymchwil. Roedd bob amser yn annog fy nhîm ac roedd yn ostyngedig ac yn garedig gyda nhw. Doedd Tom ddim yn ofni herio awdurdod gyda’r gwirionedd, oedd yn golygu y byddai’n eiriol dros ein canfyddiadau ymchwil pan oedd hynny’n bwysig. Cafodd ei ddylanwad ar bolisi a gweithredu, bob amser yn seiliedig ar dystiolaeth, effaith wirioneddol a pharhaol ar ddeilliannau canser yng Nghymru. Mae ei golli yn gadael bwlch na ellir ei lenwi, ond bydd ei waddol a’i weledigaeth yn parhau”
Dywedodd Yr Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr, Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru
“Roedd Tom yn oncolegydd ysbrydoledig a blaenllaw ym myd ymchwil, ac roedd yn uchel ei barch yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol am ei waith. Mae ei gyflawniadau hynod yn y grŵp treialon SCOPE sy’n diffinio ymarfer, ond roedd ei ddylanwad yn llawer mwy. Roeddwn i’n rhan o gamau cynnar protocol radiotherapi SCOPE1, a gafodd ei fireinio o’i flynyddoedd o waith yn astudio canlyniadau cleifion lleol. Arweiniodd ein gwaith at ffurfio cangen o’r Grŵp Sicrhau Ansawdd Treialon Radiotherapi (RTTQA) yng Nghaerdydd, sy’n sail i sawl treial mewn llawer o wahanol safleoedd tiwmor. Cefnogodd ymchwil radiotherapi ar lefel y DU drwy gymryd rhan weithredol yng Ngweithgor Ymchwil Radiotherapi Clinigol a Throsi’r DU (CTRad), gan rannu ei ddoethineb â threialwyr llai profiadol sy’n trin mathau eraill o ganser. Roedd yn deall gwerth ymchwil drosi sy’n gysylltiedig â’i dreialon arloesol a sicrhaodd fod pob cyfle i ddysgu yn cael ei wneud i’r eithaf. Roedd yn wych am ddod â phobl i’w dîm, yn seiliedig ar y gwerth y bydden nhw’n ei ychwanegu, nid eu teitl, a rhoddodd blatfform cyfartal i bawb. Fodd bynnag, meddyg oedd ef yn y bôn, oedd â’r nod o wella’r canlyniadau i’w gleifion, felly rwy’n falch iawn ei fod wedi gallu gweld ei gyfraniad yn ystod ei fywyd byr.”
Dywedodd Yr Athro John Staffurth, Athro Oncoleg ym Mhrifysgol Caerdydd ac Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Mae gwaddol yr Athro Crosby yn goroesi yn y systemau, y gwelliannau a’r rhaglenni sy’n parhau i gefnogi diagnosis cynharach o ganser, a thriniaethau gwell yng Nghymru, a thu hwnt. Mae i’w weld yn y cleifion lle mae eu canserau yn cael eu canfod yn gynt, pan fydd mwy o gyfle am driniaeth lwyddiannus, yn ogystal â’r cleifion sy’n cael gwellhad oherwydd y datblygiadau a wnaed yn bosibl gan ei ymchwil. Roedd ei gyfraniad at ofal canser yng Nghymru yn helaeth, a bydd ei ymrwymiad i ddiagnosis cynharach ac i well gofal i gleifion â chanser yn parhau i fod o fudd i gleifion a chenedlaethau’r dyfodol. Bydd cymunedau ymchwil canser a gofal canser yng Nghymru a’r DU yn gweld ei eisiau’n fawr.
