
Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn falch iawn o longyfarch dau o’n hymchwilwyr a ariennir gennym, Emma Swift a Rosie Mundy, ar eu llwyddiant yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ôl-raddedigion Ymchwil (PGR) Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd yn ddiweddar.
Derbyniodd Emma Swift, aelod o dîm ymchwil Viral ImmunoTherapies and Advanced Therapeutics Laboratory (VITAL), y Wobr Lesley Jones am Fyfyriwr PhD y Flwyddyn yn Ysgol Feddygaeth, gan gydnabod ei chyfraniadau rhagorol at ymchwil a rhagoriaeth academaidd.
Cafodd Rosie Mundy ei hanrhydeddu â’r Wobr Ymgysylltu Myfyrwyr PGR, sy’n dathlu unigolion sy’n gwneud cyfraniad eithriadol at ymgysylltu cyhoeddus, partneriaethau cymunedol a gweithgareddau ymgysylltu. Wrth fyfyrio ar y wobr, dywedodd Rosie:
“Mae’n golygu llawer i gael fy enwebu ar gyfer y wobr hon, yn enwedig gan fy ngoruchwyliwr PhD, Alan Parker, a wahoddodd fi gyntaf i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus! Llongyfarchiadau i’r holl enwebeion a’r enillwyr – roedd hi’n hyfryd cael dathlu cyflawniadau cynifer o fyfyrwyr ac aelodau cefnogol o staff!”
Roedd y digwyddiad yn ddathliad gwych o wyddoniaeth sy’n gwneud gwahaniaeth ac yn tynnu sylw at gryfder cymuned ymchwil feiroleg Caerdydd. Yn ogystal â llwyddiannau Emma a Rosie, cafodd Hannah Preston ei chydnabod â’r Wobr Effaith ac Arloesedd am ei gwaith arloesol yn datblygu therapïau newydd i reoli haint CMV.
Llongyfarchiadau mawr I Emma, Rosie a Hannah ar y clodydd haeddiannol hyn!