Mynd i'r cynnwys

Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn ysbrydoli ymwelwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Roedd Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) wrth ei bodd yn cymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol eleni yn rhan o stondin Prifysgol Caerdydd, gan roi cyfle i ymwelwyr gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil i ganser sy’n cael ei gynnal ledled Cymru.

Drwy gydol y dydd, croesawodd tîm Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) bobl o bob oed i’r stondin. Gwnaethon nhw fwynhau amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol a gynlluniwyd i sbarduno sgyrsiau am wyddoniaeth ac ymchwil. Uwch ddarlithydd clinigol rhanbarthol 

Trwy’r gweithgareddau cafwyd cyfle gwych i siarad ag aelodau o’r cyhoedd am rôl hanfodol ymchwil wrth wella’r broses o atal, rhoi diagnosis a thrin canser. Cafodd y tîm lawer o sgyrsiau ysbrydoledig gyda phobl a oedd yn awyddus i ddysgu mwy am yr ymchwil sy’n cael ei gynnal yng Nghymru ac i drafod beth allai datblygiadau arloesol yn y dyfodol ei olygu i gleifion a’u teuluoedd.

Mae digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnig cyfle gwych i gysylltu â chymunedau ledled Cymru, ateb cwestiynau am ymchwil i ganser, ac yn rhoi cyfle gwych i ni ymarfer siarad Cymraeg! 

Diolch yn fawr iawn i dîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd am wahodd y WCRC i fod yn rhan o stondin eleni, ac i bawb a alwodd heibio i gymryd rhan yn ein gweithgareddau a rhannu eu syniadau.

Diolch yn fawr – rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd y flwyddyn nesaf!