
Gan ddod â phrofiad helaeth o eirioli dros iechyd, cysylltu â’r cyhoedd a chynrychioli cleifion, mae Molly wedi neilltuo ei gyrfa i roi llwyfan i leisiau cleifion a’r cyhoedd – yn enwedig pobl ifanc sy’n delio â heriau iechyd cymhleth. Mae Molly yn ymuno â Chanolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) gyda brwdfrydedd, dealltwriaeth ac ymrwymiad cryf i wneud gwahaniaeth:
“Shwmae! Molly ydw i a bydda i’n cymryd yr awenau fel Arweinydd Lleyg PPI WCRC! Mae fy nghefndir ym maes eiriolaeth iechyd, yn enwedig dros bobl ifanc. O iechyd meddwl i iechyd menywod a salwch eithafol fel y math rwy wedi ei brofi fy hun. Rwy wedi cynnal platfformau cyfryngau cymdeithasol a phodlediad i sôn am fywyd fel person ifanc sy’n byw gyda thiwmor ar yr ymennydd ac rwy wedi bod yn gwirfoddoli ym mhob rhan o’r trydydd sector i sicrhau bod lleisiau’r cyhoedd a chleifion yn dod yn fwy canolog i’r materion sy’n effeithio arnyn nhw.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â WCRC ac ychwanegu at y gwaith gwych rwy wedi’i weld yn barod (rwy wedi bod yn ymchwilio!!) a rhoi rhywbeth rwy mor angerddol amdano ar waith. Rwy’n credu ei fod yn hynod ddiddorol y gallwn ni gyfrannu at newid y dyfodol i gleifion canser. Rwy wedi gwneud llawer o waith polisi gydag elusennau ac rwy’n aml yn ymweld â’r Senedd/San Steffan i sôn am arloesi a’r dyfodol, felly mae wir yn fraint cael cyfrannu ond hefyd dysgu gennych chi i gyd yma.”
Mae penodiad Molly yn nodi cam pwysig wrth gryfhau cynnwys cleifion a’r cyhoedd ledled WCRC, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y persbectif, yr egni a’r profiad bywyd y mae hi’n eu cynnig i’r rôl. Bydd ei gwaith yn helpu i sicrhau bod lleisiau cleifion yn parhau i fod yn ganolog i ymchwil, arloesi ac wrth wneud penderfyniadau, yn enwedig wrth i’r Ganolfan barhau i ddatblygu ei hymgysylltiad â chymunedau amrywiol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Molly wrth iddi ddatblygu mentrau presennol a helpu i lunio cynnwys ystyrlon a chynhwysol yn ein rhaglenni.