
Roedd Canolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC) wrth ei bodd yn cefnogi Ysgol Haf Sutton Trust ar 8 Gorffennaf, gan groesawu 50 o fyfyrwyr Blwyddyn 12 i gyflwyniad rhyngweithiol i fyd ymchwil ar ganser.
Gan weithio gyda Thîm Ehangu Cyfranogiad Prifysgol Caerdydd, cyflwynodd ymchwilwyr CYCC ddwy sesiwn i roi blas i fyfyrwyr ar sut beth yw gweithio ym maes ymchwil ar ganser a dangos y ffordd y mae gwyddoniaeth, technoleg a data yn helpu ymchwilwyr i fynd i’r afael â chanser.
Ystyriodd myfyrwyr pam mae DNA mor bwysig mewn ymchwil ar ganser, cyn cymryd rhan mewn gweithgaredd ymarferol i echdynnu DNA o fefus. Cawson nhw hefyd y cyfle i roi cynnig ar godio, gan edrych ar y ffordd y mae ymchwilwyr yn defnyddio data a dulliau cyfrifiadurol i gefnogi darganfyddiadau newydd ym maes canser.
Cyflwynwyd y sesiynau gan ymchwilwyr a chyd-fyfyrwyr CYCC Dr Mat Clement, Dr Arron Lacey, Dr Kate Milward, Dr Laura Baker a Manon Jones, a rannodd eu gwybodaeth a’u profiad, gan annog myfyrwyr i ofyn cwestiynau ac ystyried yr ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael ym maes ymchwil ar ganser.

Dyma a ddywedodd Mat Clement:
“Rwy’n hynod o falch o fod yn rhan o’r gweithgareddau Canolfan Ymchwil Canser Cymru a’r Sutton Trust. Roedd y myfyrwyr mor frwdfrydig ac yn gofyn cwestiynau da iawn, a gobeithio ein bod wedi ysbrydoli darpar imiwnolegwyr canser yn y grŵp.”
Roedd y diwrnod yn brofiad arbennig o werth chweil i’r ymchwilwyr oherwydd brwdfrydedd a chwilfrydedd y myfyrwyr, a chafwyd sgyrsiau bywiog a digonedd o gwestiynau craff drwy gydol y sesiynau.
Dywedodd yr ymchwilwyr eu bod yn falch iawn o gael y cyfle i rannu eu profiadau a helpu i ddangos bod ymchwil ar ganser yn cwmpasu llawer mwy na gwyddoniaeth y labordy, a bod meysydd megis dadansoddi data, codio ac ymchwil gyfrifiadurol yn chwarae rhan gynyddol bwysig.

Hoffai CYCC ddiolch i Dîm Ehangu Cyfranogiad Prifysgol Caerdydd am wahodd y Ganolfan i gymryd rhan, a’r Sutton Trust am roi’r cyfle i fyfyrwyr ystyried pynciau prifysgol a gyrfaoedd posibl.
Drwy roi profiad ymarferol o ymchwil ar ganser i fyfyrwyr a’u cysylltu ag ymchwilwyr sy’n gweithio yn y maes, mae mentrau megis Ysgol Haf y Sutton Trust yn cynnig cyfle pwysig i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr ac ymchwilwyr canser yng Nghymru.