
Roedd Canolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC) yn falch o fynd i Ffair Iechyd Cymunedau Ethnig Leiafrifol Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC), gan ymuno â mwy na 50 o sefydliadau o bob cwr o Gymru i gysylltu â chymunedau lleol a thrafod iechyd, lles ac ymchwil.
Rhoddodd y digwyddiad gyfle gwerthfawr i dîm CYCC gael siarad â phobl am ymchwil canser, clywed eu gobeithion a’u blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, a dysgu sut y gall cleifion a’r cyhoedd fod â mwy o lais wrth lunio ymchwil. Roedd hefyd yn gyfle i wneud cysylltiadau newydd â sefydliadau sy’n gweithio i wella iechyd a lles o fewn cymunedau ethnig leiafrifol.
Ymunodd dwy aelod o dîm Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) â CYCC, sef yr Arweinydd Academaidd Dr Pamela Smith a’r Arweinydd Lleyg Molly Fenton. Helpodd y ddwy i hwyluso sgyrsiau a thynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys cymunedau amrywiol ym maes ymchwil canser.
Wrth sôn am y diwrnod, dywedodd Molly Fenton:
“Y prif beth rydw i wedi’i ddysgu heddiw yw pa mor bwysig yw ymddiriedaeth. Adeiladu cymunedau, gofal ac ymroddiad. Does dim modd anghofio am hyn, na’i ffugio. Bydd yn flaenoriaeth i mi yn y rôl hon dros y tair blynedd nesaf.”
Mae magu ymddiriedaeth a chreu perthnasoedd ystyrlon â chymunedau yn hanfodol i sicrhau bod ymchwil canser yn gynhwysol, yn berthnasol ac yn adlewyrchu’r bobl y mae’n bwriadu eu helpu. Mae cymryd rhan mewn digwyddiadau fel Ffair Iechyd C3SC yn rhan bwysig o wrando, dysgu a datblygu’r perthnasoedd hynny.
Hoffai’r CYCC ddiolch i C3SC am drefnu digwyddiad gwych, ac i Pamela a Molly am roi o’u hamser a helpu i wneud y diwrnod yn gymaint o lwyddiant.
