Mynd i'r cynnwys

Cynllun newydd wedi’i ddadorchuddio i hybu ymchwil canser i gleifion ledled Cymru

Mae’r Strategaeth Ymchwil Canser gydlynol gyntaf erioed i Gymru (CReSt), a fydd yn dod â’r gymuned ymchwil gyfan ynghyd yn y frwydr yn erbyn canser, yn cael ei chyhoeddi heddiw.

Bydd y gwaith o’i gweithredu yn cael ei gydlynu gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar chwe thema ymchwil sydd â blaenoriaeth lle mae hanes o ragoriaeth eisoes yng Nghymru y gellir ei datblygu ymhellach i fod yn flaengar yn rhyngwladol.

Dywedodd yr Athro Mererid Evans, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Canser Cymru:

“Gallwn gyflawni cymaint trwy gydweithio. Ein nod yw uno’r rhai sy’n ymwneud ag ymchwil canser yng Nghymru fel y gallwn sicrhau cynnydd gwirioneddol. Bydd hyn yn paratoi’r ffordd ar gyfer rhagor o ddarganfyddiadau arloesol a threialon, cydweithrediadau pwysig gyda’r diwydiant a’r byd academaidd, a mynediad mwy teg at ymchwil. Yn fwy na dim, ni fyddwn yn colli golwg ar bwy rydym ni’n gweithio iddyn nhw: cleifion a’r cyhoedd yng Nghymru a thu hwnt.”