Mae Dr Amy Case, meddyg hyfforddiant arbenigol oncoleg glinigol yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru yn Abertawe a chyn-Gymrawd Ymchwil a ariannwyd gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, wedi ennill Gwobr Ymchwil, Gwelliant ac Arloesedd FRCR Caerdydd am ei gwaith ar radiotherapi gastrig yn y DU.
Roedd y gystadleuaeth yn agored i bob cofrestrydd arbenigol ym meysydd oncoleg, radioleg a gofal lliniarol ar draws De-ddwyrain Cymru, a gwahoddwyd crynodebau o unrhyw brosiect sy’n canolbwyntio ar ymchwil, gwella/archwilio ac arloesedd. Barnwyd y prosiectau ar sail eu newydd-deb, eu hymrwymiad, eu heffaith a’u dichonoldeb.
Yn ystod y seremoni wobrwyo, cyflwynodd Amy ei gwaith ar rôl radiotherapi ar gyfer trin canser gastrig (y stumog). Canser gastrig yw un o’r canserau llai goroesadwy yng Nghymru – dim ond 18.3% yw’r gyfradd goroesi 5-mlynedd. Ar hyn o bryd, yr unig driniaeth sydd ar gael i geisio gwella canser gastrig yw llawdriniaeth (wedi’i chyfuno â chemotherapi, fel arfer). Ar gyfer y cleifion hynny na allant gael llawdriniaeth, nid oes unrhyw opsiynau eraill ar gael ar hyn o bryd i geisio gwella eu canser. Nid yw radiotherapi’n opsiwn trin radical safonol ar hyn o bryd ar gyfer claf â chanser gastrig anllawdriniadwy, ac mae Amy a’i thîm yn edrych i weld a allai chwarae rôl yn y cyd-destun hwn.
Dywedodd Amy: “Mae fy ngwaith wedi cynnwys gwneud adolygiad cynhwysfawr o’r holl ymchwil sydd wedi’i gwneud i hyn yn barod ledled y byd, yn ogystal â gwneud arolwg o safbwyntiau oncolegwyr ledled y DU ar radiotherapi gastrig a cheisio gweld a fyddent yn cefnogi treial clinigol yn y dyfodol. Rwyf nawr yn cynnal astudiaethau i sefydlu’r dechneg orau ar gyfer rhoi dosau uchel o radiotherapi i’r stumog yn ddiogel ac yn effeithiol.”
Canfu’r arolwg y byddai 76.7% o oncolegwyr clinigol a holwyd yn y DU o blaid datblygu treial clinigol i ymchwilio i rôl radiotherapi ar gyfer trin canser gastrig anfetastatig ac anllawdriniadwy.
Dywedodd Amy: “Roeddwn yn falch iawn o ddod yn gyntaf am fy nghrynodeb o’r enw ‘Gastric Radiotherapy in the UK – Current Practice and Opinion on Future Directions.’ Nod y prosiect ymchwil hwn yn y pen draw yw datblygu treial clinigol i ymchwilio i rôl radiotherapi ar gyfer trin canser gastrig anfetastatig ac anllawdriniadwy – y treial clinigol ar hap cyntaf yn y maes hwn, yma yn y DU.”