Mynd i'r cynnwys

Treial FAKTION dan arweiniad Prifysgol Caerdydd yn derbyn cymeradwyaeth gan yr FDA ar gyfer y cyffur TRUQAP

Professor Rob Jones

Mae’r Athro Rob Jones, ynghyd â Nyrsys Treialon Clinigol Cyfnod Cynnar a gefnogir gan WCRC a Chymrawd Clinigol Dr Magda Meissner, wedi chwarae rhan ganolog mewn treial Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol (ECMC), FAKTION, gan orffen gyda chymeradwyaeth yr Asiantaeth Cyffuriau Ffederal (FDA). o’r cyffur newydd ‘truqap’ fel cyffur o’r radd flaenaf a dynodiad clinigol trwyddedig cyntaf, gan roi gobaith i gleifion â chanser y fron anwelladwy.

Daeth treial FAKTION i fodolaeth dros 10 mlynedd yn ôl gyda’r awydd i ddod o hyd i ffyrdd i wella canlyniadau i’r math mwyaf cyffredin o ganser, sef canser y fron derbynnydd oestrogen positif . I gleifion sy’n derbyn diagnosis o ganser na ellir ei wella, gall triniaeth hormonau helpu ond yn aml gall y corff ei wrthsefyll yn y pen draw.

Mae gan un protein penodol, AKT, y gallu i sbarduno’r gwrthsefyll hwn. Archwiliodd y treial FAKTION y posibilrwydd o gyfuno therapi hormonau ag atalydd AKT capivasertib AstraZeneca yn ddiogel er mwyn gwella canlyniadau iechyd i gleifion.

Dangosodd canlyniadau Cam 2 treial FAKTION y gallai’r rheiny a dderbyniodd y driniaeth gyfunol ddisgwyl rheoli’r canser ddwywaith cyhyd â’r rheiny a dderbyniodd y driniaeth hormonau yn unig. Cymerodd cyfanswm o 140 o gleifion o 19 ysbyty ran yn y treial, a arweiniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yng Nghaerdydd, ac Ysbyty Christie ym Manceinion, ynghyd â Phrifysgol Caerdydd. Cafodd y canlyniadau eu cyflwyno yng nghynhadledd ganser fwyaf y byd yn Chicago a’u cyhoeddi yng nghyfnodolyn Lancet Oncology.

Dywedodd cyd-arweinydd yr astudiaeth, yr Athro Rob Jones, o Ganolfan Ganser Felindre a Phrifysgol Caerdydd: “Ni fu erioed arbrawf sy’n targedu’r llwybr genetig hwn mewn canser y fron sydd â mantais goroesi gyffredinol fel hyn – mae’n wirioneddol ryfeddol.  Nid yn unig yw’r cyflawniad hwn yn arwydd o garreg filltir arloesol ym maes triniaeth canser, ond mae hefyd yn rhoi Cymru ar y map byd-eang ar gyfer arloesi meddygol.”

Cadarnhawyd y canfyddiadau hyn gan Gam 3 treial byd-eang Capitello-291 a gefnogwyd gan AstraZeneca. Gan gyfuno data o dreial FAKTION ffurfiodd hyn ran hanfodol cais yr FDA. 

Roedd y cais yn llwyddiannus, gyda’r FDA yn cyhoeddi’n ddiweddar y bydd yn trwyddedu defnyddio capivasertib, a elwir bellach yn truqap, mewn cyfuniad â’r cyffur therapi hormonau faslodex i’w ddefnyddio gyda chleifion â chanser datblygedig y fron ER positif HER2 negyddol.  Cyn y gellir defnyddio’r cyffur yn y wlad hon, mae angen i’r DU ac Ewrop ei gymeradwyo, ond o ganlyniadau’r treial hon mae’r dyfodol yn edrych yn addawol iawn i gleifion â chanser y fron nad oes modd ei wella.