Mynd i'r cynnwys

Treialon clinigol canser yng-nghyd destun Cymru – ble rydym yn mynd nesaf?

Sut y gall Cymru ddatblygu enw da byd-eang fel arweinydd mewn treialon clinigol canser? Mae’r Athro Richard Adams a Steve Knapper yn rhannu eu barn ar sut y gellid cyflawni hyn.

Rydym yn ffodus i gael arweinwyr ymchwil sy’n arwain treialon cenedlaethol a rhyngwladol, a chymuned frwdfrydig o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â’r potensial i arwain treialon arloesol yfory.

Gall treialon clinigol canser ein helpu i wella canlyniadau i gleifion. Er enghraifft, gall treialon archwilio’r ffordd orau o ddal canser yn gynt, gan gynyddu’r siawns o wella, neu ein helpu i archwilio ffyrdd newydd o drin cleifion â chlefydau anwelladwy mwy datblygedig.

Mae treialon yn caniatáu inni gwestiynu beth rydym yn ei wneud nawr; beth ddylem ni ei newid a sut y gallwn brofi syniadau a thriniaethau newydd i brofi eu bod yn well ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gleifion? Maent yn rhan bwysig o’r dirwedd ymchwil canser yng Nghymru a byddant yn rhan annatod o’r strategaeth ymchwil canser newydd (CReSt).

Y cyd-destun yng Nghymru

Mae elfennau unigryw yng Nghymru sy’n bwysig i’w cydnabod o ran sut rydym yn darparu gofal canser. Mae gennym boblogaeth gymysg, wledig a threfol iawn, a dylanwadau cymdeithasol ac economaidd amrywiol a all effeithio ar gyfraddau gwella a goroesi. Gall hefyd effeithio ar y ffordd rydym yn cynnig triniaeth a phwy y gellid eu recriwtio i dreialon. Yn hyn o beth, mae gan dreialon canser gyfle arall yng Nghymru i dynnu sylw mewn gwirionedd at y ffyrdd gorau ymlaen i bawb.

Mae dwy elfen strategol glir rydym am eu deall a’u gwella yn Strategaeth Ymchwil Canser Cymru, sef: 

  • Sut y gallwn ennyn diddordeb mwy o gleifion o bob rhan o Gymru mewn treialon clinigol, a fydd yn ein helpu i nodi ffyrdd o wella gofal canser?
  • Sut rydym ni’n cefnogi arweinwyr y dyfodol ym maes gofal iechyd i ddatblygu treialon newydd sy’n diwallu anghenion poblogaeth Cymru a phoblogaethau byd-eang? Mae ein system iechyd ychydig yn wahanol i weddill y DU, ac mewn rhai ardaloedd penodol mae’n bwysig wahanol. Os ydym am asesu rhywbeth newydd, mae angen inni ei asesu yn y cyd-destun yng Nghymru. 

Mae llawer o heriau wrth gyflawni’r nodau hyn sy’n gofyn am ddull strwythuredig, effeithlon a rhai dewisiadau anodd. Mae’n bosibl, er enghraifft, canolbwyntio ar ddal canser yn gynharach drwy astudiaethau sgrinio a chanfod ar draws ardaloedd o Gymru sy’n wynebu mwy o heriau economaidd-gymdeithasol a daearyddol. Er y gall ceisio darparu treialon cymhleth iawn fel y rhai a ddarperir gan y Ganolfan Meddygaeth Canser Arbrofol yng Nghaerdydd ledled Cymru fod yn fwy heriol.

Datblygiadau arloesol sy’n arwain y byd

Wrth ddatblygu ein harweinwyr ymchwil glinigol yn y dyfodol, rydym yn canolbwyntio ar sut i wneud Cymru yn arweinydd wrth ddatblygu syniadau newydd. Mae gennym uned treialon clinigol wych dan arweiniad academyddion yng Nghaerdydd, a gefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Yma mae’r tîm ymchwil yn gweithio gyda phobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt i ddatblygu a chyflwyno treialon cenedlaethol a rhyngwladol. 

Credwn ein bod mewn sefyllfa gref i ddatblygu syniadau ymchwil gan ddefnyddio lleisiau cleifion, a lleisiau clinigwyr, technegwyr a gwyddonwyr i ddatblygu treialon y dyfodol. Mae angen inni ddod o hyd i’r arweinwyr hynny yn y dyfodol i ddatblygu’r syniadau a fydd, yn ein barn ni, yn gwneud gwahaniaeth i gleifion yng Nghymru. 

Mae angen inni ddeall y ffordd orau o feithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr a fydd yn creu’r grŵp nesaf o dreialon. Mae honno’n broses anodd oherwydd mae’n llawer o waith ychwanegol i bobl ei wneud. Fodd bynnag, os byddwn yn rhoi rhywfaint o amser pwrpasol i bobl i wneud gwaith ymchwil, gallwn symud pethau ymlaen go iawn.

Mae angen inni hefyd sicrhau bod lleisiau’r gymuned ganser yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir. Dyma’r bobl sydd wedi cael canser neu sydd wedi adnabod pobl â chanser. Dylai gwrando ar y partneriaid ymchwil lleyg sy’n cyfrannu at ein gwaith fod ar frig agenda CReSt.