
Ym mis Gorffennaf 2025, roedd Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) yn falch o gyhoeddi lansiad Dyfarniad Dechrau Gyrfa, gan gynnig 6-12 mis o gyllid i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, sy’n cynnwys cymorth cyflog a hyd at £5k mewn nwyddau traul.
Nod y cynllun, a ariennir drwy’r estyniad catalytig CReSt, yw rhoi’r amser a’r adnoddau i ymchwilwyr talentog ar ddechrau eu gyrfa gynhyrchu data peilot, creu modelau a meithrin sgiliau a fydd yn eu gwneud yn ymgeiswyr cryf ar gyfer cymrodoriaethau cystadleuol o bwys. Roedd y Dyfarniad wedi ennyn cryn ddiddordeb yn y DU ac yn rhyngwladol, gan ddenu ceisiadau gan ymchwilwyr ledled y byd a dod â thalent o safon i gymuned ymchwil canser Cymru.
Cynigiwyd y Dyfarniadau i bum ymgeisydd yn dilyn cyfweliadau ym mis Medi 2025. Bydd Prifysgol Caerdydd yn croesawu pedwar ymgeisydd llwyddiannus yn Is-adrannau Canser a Geneteg, Heintiau ac Imiwnedd, a Pheirianneg. Bydd Prifysgol Abertawe yn croesawu pumed deiliad y Dyfarniad yn Adran y Gwyddorau Biofeddygol. Bydd yr ymchwilwyr yn ymgymryd â gwaith arloesol mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cytometreg acwstig i ganfod canserau wrolegol, addasu ac ymchwilio i feirysau oncolytig, mecanweithiau ymledu peritoneal sydd wedi’u cyfryngu gan galpain, ac imiwnotherapiau ar gyfer melanoma metastatig.

“Rydyn ni’n falch iawn o allu cefnogi ystod anhygoel o brosiectau newydd yn sgil y Dyfarniad Dechrau Gyrfa. Roedd yr alwad yn un gystadleuol iawn, gan dynnu sylw at yr angen am gyllid i unigolion talentog ar ddechrau eu gyrfa. Dymunwn y gorau i ddeiliaid y dyfarniad ar eu gwaith ac edrychwn ymlaen at weld sut mae eu hymchwil yn datblygu”. Kathryn Spiers-Pritchard, Rheolwr Prosiectau Gwyddonol Canolfan Ymchwil Canser Cymru
Dechreuodd deiliad cyntaf y dyfarniad yn ei swydd ym mis Rhagfyr 2025, a bydd y pedwar sy’n weddill yn dechrau rhwng mis Ionawr ac Ebrill 2026.

“Mae’r dyfarniad hwn yn fendith gan ei fod wedi caniatáu imi bontio i’r rôl a’r cyd-destun ymchwil newydd hwn. Mae cydweithio â VITAL a gweithio ar gynhyrchu cyfryngau oncolytig manwl gywir a phenodol yn gyflym yn fy rhoi mewn sefyllfa wych i barhau â fy ngyrfa ymchwil. Mae gweithio gyda Chanolfan Ymchwil Canser Cymru hefyd yn rhoi’r cyfle imi ennill profiad pwysig o weithio a chyfleu canfyddiadau ymchwil gyda’r cyhoedd, sef rhywbeth rwy’n angerddol iawn amdano.” Dr Julian Fischer, derbynnydd CSA

“Wrth i mi fod yn gorffen fy PhD yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, roeddwn i eisiau dilyn gyrfa mewn ymchwil, ac mae Gwobr Cychwyn Gyrfa WCRC wedi fy helpu i ddechrau gweithio tuag at hyn! Rwy’n gyffrous i ehangu ein cronfa wybodaeth ar adenofeirysau sydd heb gael digon o sylw er mwyn datblygu fectorau ar gyfer feirysau oncolytig a brechlynnau canser. Ni fyddwn wedi gallu gwneud hyn heb Wobr Cychwyn Gyrfa WCRC, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda thîm WCRC a’r grŵp VITAL eleni.” Rosie Mundy, derbynnydd CSA
Yn rhan o’r Dyfarniad Dechrau Gyrfa, mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn ceisio cryfhau dyfodol ymchwil canser drwy ddenu ymchwilwyr rhagorol ar ddechrau eu gyrfa a gwella proffil Cymru yn gyrchfan i dalent ymchwil sy’n dod i’r amlwg.