
Mae treial clinigol newydd mawr dan arweiniad ymchwilwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Caergrawnt wedi sicrhau cyllid trwy Gynllun Ariannu Ymchwil Glinigol Ymchwil Canser y DU i weld a all radiotherapi dos uwch wella canlyniadau i bobl â chanser y stumog na ellir ei drin drwy lawdriniaeth.
Mae treial GastroSCOPE yn cael ei arwain ar y cyd yn glinigol gan Dr Sarah Gwynne, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Dr Amy Case, cyn Gymrawd Ymchwil Clinigol a ariannwyd gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC). Mae’r rhaglen ymchwil drosiadol yn cael ei chyd-arwain gan Dr Gwynne a Dr Chris Jones o Brifysgol Caergrawnt.
Yng nghyfnodau cynharach datblygu GastroSCOPE, rhoddodd gwobr bersonol Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yr amser gwarchodedig i Dr Gwynne ddatblygu ei syniad ymchwil yn gynnig astudiaeth llawn. Galluogodd y wobr iddi adolygu’r dystiolaeth, meithrin partneriaethau ag ymchwilwyr ledled y DU a pharatoi’r astudiaeth ar gyfer cyllid ar raddfa fwy.
Bydd yr hapdreial rheoledig ledled y DU yn recriwtio 558 o gleifion ar draws 28 o ganolfannau, gan gymharu triniaeth safonol gyda radiotherapi dos uwch ychwanegol a hebddo.
Llawdriniaeth ar ganser y stumog sy’n cynnig yr unig obaith o wella, ond mae’r rhan fwyaf o gleifion yn cael diagnosis pan nad yw llawdriniaeth yn bosibl mwyach. I’r cleifion hyn, mae opsiynau triniaeth yn parhau i fod yn gyfyngedig ac yn aml nid ydynt yn rheoli symptomau’n ddigonol nac yn atal y clefyd rhag datblygu.
Nod GastroSCOPE yw pennu a all rhoi dos uwch o radiotherapi ochr yn ochr â gofal safonol arafu datblygiad tiwmor, lleihau symptomau gofidus a gwella ansawdd bywyd cleifion. Bydd y treial yn cynnwys dau grŵp o gleifion: y rhai sy’n gallu derbyn cemotherapi a’r rhai nad ydynt.
Ochr yn ochr â gwerthuso canlyniadau clinigol, bydd y tîm ymchwil yn ymchwilio i dechnegau delweddu uwch, bioleg tiwmor a biofarcwyr gwaed i ddeall yn well pam mae rhai cleifion yn ymateb yn well i driniaeth nag eraill. Mae cleifion hefyd wedi bod wrth wraidd y gwaith o ddylunio’r astudiaeth, gan helpu i sicrhau bod y treial yn hygyrch ac yn canolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i’r rhai sy’n byw gyda chanser y stumog. Os bydd y canfyddiadau’n llwyddiannus, gallai newid canllawiau triniaeth cenedlaethol ac ehangu’n sylweddol opsiynau triniaeth ar gyfer cleifion â chanser y stumog na ellir ei drin drwy lawdriniaeth yn y DU ac yn rhyngwladol.
Dywedodd Dr Sarah Gwynne:
“Bydd y cyllid hwn gan Ymchwil Canser y DU yn caniatáu inni ateb cwestiwn rydw i wedi bod yn ei ofyn am y 13 mlynedd diwethaf fel ymgynghorydd – sut allwn gynnwys manteision radiotherapi a welir mewn canserau eraill yn nhriniaeth cleifion â chanser y stumog na ellir ei drin drwy lawdriniaeth.
“Mae llawer wedi newid yn y 13 mlynedd hynny, gyda chyffuriau gwell a datblygiadau mewn technegau radiotherapi, ond dydyn ni ddim yn gwybod sut a phryd i’w cyfuno i drin y clefyd hwn o hyd – un o’r rhesymau pam mae Ymchwil Canser y DU wedi dynodi canser y stumog yn ganser sydd ag angen heb ei ddiwallu.
“Drwy’r cyllid y mae Ymchwil Canser y DU wedi’i roi i gynnal y treial hwn, gallwn ddechrau ateb y cwestiwn hwnnw, gan gynnig mwy o opsiynau triniaeth i’r cleifion a welwn yn ein clinigau, gyda’r nod o wella eu symptomau, disgwyliad oes ac ansawdd bywyd. Os yw’n gadarnhaol, gallai’r treial hwn newid arferion yma ac ym mhedwar ban byd. Am fraint a chyfle.”
Dywedodd Dr Amy Case:
“Dechreuais fy nhaith gyda thîm GastroSCOPE diolch i gymrodoriaeth ymchwil MD a ariannwyd yn rhannol gan WCRC. Galluogodd y gefnogaeth ariannol hon imi neilltuo’r amser angenrheidiol a chael yr arweiniad academaidd i ymchwilio i rôl radiotherapi ar gyfer canser gastrig na ellir ei drin drwy lawdriniaeth – gwaith sydd wedi llywio dyluniad treial GastroSCOPE.
“Rwy’n hynod ddiolchgar i Dr Gwynne ac WCRC am fy nghefnogi fel ymchwilydd ar ddechrau fy ngyrfa. Mae eu cefnogaeth wedi cyflwyno’r cyfle cyffrous hwn i mi – nid yn unig gan hyrwyddo fy natblygiad academaidd fy hun, ond, yn bwysicach fyth, gan gynnig y potensial i drawsnewid y dirwedd driniaeth a gwella canlyniadau i gleifion ledled Cymru a’r DU ehangach sy’n byw gyda chanser gastrig.”
Mae’r wobr yn cynrychioli carreg filltir arwyddocaol i dîm GastroSCOPE ac yn tynnu sylw at gryfder y cydweithio rhwng clinigwyr, ymchwilwyr a chleifion ledled y DU. Drwy gyfuno radiotherapi ag ymchwil drosiadol, mae’r treial yn anelu at wella triniaeth heddiw yn ogystal â darparu mewnwelediadau newydd a fydd yn llywio dulliau personol yn y dyfodol ar gyfer pobl sydd wedi cael diagnosis o ganser y stumog na ellir ei drin drwy lawdriniaeth.