Mynd i'r cynnwys

Arweinydd Thema 6 CReSt Canolfan Ymchwil Canser Cymru, yr Athro Kate Brain, yn cyfrannu at fenter atal canser ryngwladol o bwys

Mae’r Athro Kate Brain, Gwyddonydd Ymddygiadol ym Mhrifysgol Caerdydd ac Arweinydd Thema 6 CReStCanolfan Ymchwil Canser Cymru, yn cyfrannu at fenter ryngwladol o bwys i leihau’r risg o ddatblygu canser ledled Ewrop, a hynny drwy gymryd rhan mewn prosiect ar y cyd rhwng Sefydliad Iechyd y Byd a’r Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Canser, sef Rhifyn 5 o’r Côd Ewropeaidd yn erbyn Canser (ECAC5).

Mae’r Athro Brain yn aelod o Weithgor Sefydliad Iechyd y Byd a’r Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Iechyd ar Gyfathrebu a Llythrennedd Iechyd, sy’n cael ei gadeirio gan yr Athro Dame Theresa Marteau, Athro Ymddygiad ac Iechyd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae’r aelodau wedi bod yn cydweithio i sicrhau bod y rhifyn newydd o’r Côd yn hawdd ei ddarllen ac yn effeithiol o ran helpu pobl ledled Ewrop i ddeall a gweithredu ar negeseuon atal canser sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Wrth sôn am ei rôl, dywedodd yr Athro Brain:

“Er bod canser ymhlith prif achosion marwolaeth yn y DU a’r Undeb Ewropeaidd, mae modd atal tua 40% o achosion. Cafodd y Côd Ewropeaidd yn erbyn Canser ei ddatblygu gan arbenigwyr blaenllaw er mwyn codi ymwybyddiaeth aelodau’r cyhoedd o’r risg o ddatblygu canser a’r camau y gallan nhw eu cymryd i leihau’r risg honno. A minnau’n aelod o Weithgor Sefydliad Iechyd y Byd a’r Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Canser, braint yw cynrychioli Cymru yn yr ymdrech ryngwladol bwysig hon.”

Cafodd ECAC5 ei gyflwyno’n ddiweddar yng Nghyngres 2025 Cymdeithas Ewrop ar gyfer Oncoleg Feddygol yn Berlin (17-21 Hydref 2025). Yn ystod y cyfarfod hwn, aeth gwyddonwyr yr Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Canser ati i gyflwyno eu hargymhellion diweddaredig a thrafod pwysigrwydd ECAC5 i strategaethau atal canser ledled Ewrop. Bydd y Côd newydd yn cael ei lansio’n swyddogol ar Ddiwrnod Canser y Byd 2026, ar ôl ei gyfieithu i holl ieithoedd yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn cysylltiad â hyn i gyd, bydd yr Athro Dame Theresa Marteau yn rhoi araith arbennig yng Nghynhadledd Ymchwil Canser Cymru o’r enw ‘Datblygu a gwerthuso ymyriadau newid ymddygiad i wella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd’. Bydd ei haraith yn ystyried rôl gwyddor ymddygiad a chyfathrebu yn y gwaith o atal canser a gwella canlyniadau iechyd y cyhoedd.

Mae Rhifyn 5 o’r Côd Ewropeaidd yn erbyn Canser ar gael yma


I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Ymchwil Canser Cymru a’i gwaith i atal canser a gwneud diagnosis o ganser yn gynnar, ewch i’w gwefan.