Mynd i'r cynnwys

Galwad am Ddatganiadau o Ddiddordeb ar gyfer cadeirio Grwpiau Ymchwil Amlddisgyblaethol CReSt 

Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu a chyflawni rhagoriaeth ymchwil ledled Cymru, yn unol â’r strategaeth ymchwil ar ganser, Cymru gyfan (CReSt) a lansiwyd yn 2022. Rydym wedi’n lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cael ein hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. 

Yn 2024 bydd WCRC yn lansio grwpiau ymchwil amlddisgyblaethol (MDRGs) newydd i gyd-fynd â CReSt. Mae’r grwpiau hyn yn dod ag ymchwilwyr clinigol ac anghlinigol, a chynrychiolwyr WCRC o blith cleifion a’r cyhoedd ynghyd i ysgogi cydweithredu ac i gydweithio ar gynigion am gyllid.  

Mae WCRC yn chwilio am unigolion i gadeirio’r grwpiau hyn sy’n cael eu lansio o’r newydd. Cynhelir cyfarfodydd grŵp ddwywaith y flwyddyn, unwaith wyneb yn wyneb (diwrnod llawn) ac unwaith ar-lein (~2 awr). Bydd cadeiryddion yn penodi siaradwyr ar gyfer y cyfarfodydd, ac yn cymryd rhan drwy fod yn bresennol mewn cyfarfodydd gan gyfrannu yn y rhain ac all-lein rhwng cyfarfodydd fel y bo’n briodol. 

Sylwch mai rolau di-dâl yw’r rhain, a hynny am gyfnod o 2 flynedd i ddechrau (mae parhad grwpiau y tu hwnt i fis Mawrth 2025 yn amodol ar adnewyddu cyllid WCRC). 

Ar hyn o bryd rydym yn ceisio  datganiadau o ddiddordeb gan unigolion ar gyfer y rolau canlynol: 

• Cyd-Gadeirydd MDRG: Oncoleg fecanistig a manwl 

Cyd-Gadeirydd MDRG: Imiwno-oncoleg 

• Cyd-Gadeirydd MDRG: Radiotherapi 

Cyd-Gadeirydd MDRG: Treialon clinigol ym maes canser 

Cyd-Gadeirydd MDRG: Oncoleg gefnogol a lliniarol 

Cyd-Gadeirydd MDRG: Ymchwil ar atal canser, canfod canser, gofal sylfaenol a gwasanaethau iechyd. 

Bydd uchafswm o ddau unigolyn yn cael eu penodi i arwain pob grŵp. I fod yn gymwys mae’n rhaid i chi fod wedi’ch lleoli yng Nghymru, yn cymryd rhan mewn gweithgaredd ymchwil sy’n berthnasol i faes canser.  

Bydd disgwyl i Gadeiryddion MDRG CReSt: 

  • Fod yn gallu cynllunio a chadeirio 1 cyfarfod wyneb yn wyneb ac 1 cyfarfod ar-lein y flwyddyn, yn ogystal â chyfarfodydd ad hoc fel sy’n ofynnol gan y grŵp, ac adrodd ar gynnydd y grŵp i WCRC 
  • Cyflwyno’r agenda ym mhob cyfarfod, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu astudiaethau, a galwadau agored ar gyfer cyllid, hyn i ysgogi ceisiadau sy’n gynigion ar y cyd 
  • Bod yn cymryd rhan mewn ymchwil sy’n gysylltiedig â chanser sy’n berthnasol i’r thema CReSt y maent yn gwneud cais ar ei chyfer 
  • Paratoi cynnwys a gwneud y trefniadau ar gyfer cyfarfod MDRG trwy: 
    • Gadarnhau’r trefniadau ar gyfer pob cyfarfod gyda thîm canolfan WCRC 
    • Trefnu siaradwyr perthnasol ar gyfer pob cyfarfod 
    • Paratoi agendâu’r cyfarfodydd 

Rhagor o wybodaeth 

Anfonwch eich datganiadau o ddiddordeb at wcrc@caerdydd.ac.uk erbyn 31 Mawrth 2024

Dylai datganiadau o ddiddordeb gynnwys datganiad (dim mwy na 250 gair) yn amlinellu’r 

MDRG sydd o ddiddordeb i chi, eich rôl bresennol, pam fod cadeirio’r MDRG o ddiddordeb i chi, pam eich bod yn teimlo mai chi yw’r person cywir i gadeirio MDRG, a (lle bo’n berthnasol) dolen i’ch portffolio neu broffil ymchwil. 

Os hoffech sgwrs anffurfiol gydag aelod o dîm WCRC er mwyn cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â wcrc@caerdydd.ac.uk a byddem yn hapus i drefnu galwad fer.