Mynd i'r cynnwys

Integreiddio Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) ar gyfer effaith ymchwil well yn Astudiaeth COBra: Astudiaeth achos gan yr Athro Anthony Byrne a Dr Elin Baddeley

Mewn cam tuag at arferion ymchwil cynhwysol, mae astudiaeth a ariennir gan Elusen Tiwmor yr Ymennydd, astudiaeth COBra,  wedi cael llwyddiant o ganlyniad i ymdrechion anhepgor Partneriaid Ymchwil Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd (PPI).

Roedd astudiaeth COBra yn brosiect aml-gam â’r nod o ddatblygu set canlyniadau craidd ar gyfer treialon tiwmorau’r ymennydd. Mae set o ganlyniadau craidd yn rhestr o brif ddeilliannau (e.e. ansawdd bywyd, poen, cyfog, ac ati) y penderfynwyd arnynt ac y cytunwyd arnynt ar gyfer cyflwr iechyd penodol sy’n rhai hanfodol bwysig i’w mesur mewn treialon ymchwil/ymarfer clinigol. Roedd astudiaeth COBra hefyd yn canolbwyntio’n benodol ar y canlyniadau hynny yr oedd cleifion yn adrodd amdanynt. 

Mae astudiaeth CoBrA yn gosod safon newydd trwy gydnabod pŵer trawsnewidiol PPI o ddechrau’r astudiaeth. Roedd dau bartner PPI penodedig yn gyfranwyr at ddyluniad y COBra a’r cais am grant. Yna daethant yn aelodau anhepgor o’r tîm ymchwil craidd drwy gydol yr astudiaeth, a pharhau i wneud hyn wrth adrodd ar ganfyddiadau’r astudiaeth.

Defnyddiodd astudiaeth COBra hefyd becyn cymorth Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd mewn Olrhain Effaith Ymchwil (PIRIT). Kathy Seddon roedd un o gynrychiolwyr PPI yn rhan o dîm dylunio WCRC a greodd PIRIT. Mae’r pecyn cymorth yn seiliedig ar Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd, sef canllawiau sydd wedi’u cynllunio i helpu i wella ansawdd a chysondeb cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil. Defnyddiwyd offer cofnodi ac olrhain PIRIT yn ystod yr astudiaeth, gan ymchwilwyr a’r cyhoedd cysylltiedig, i adolygu cynlluniau a gweithgareddau cynnwys presennol ac olrhain ei effaith yn erbyn y safonau. Helpodd defnyddio PIRIT i ysgogi trafodaethau ar gynyddu’r gwahanol lefelau a mathau o gyfleoedd cynnwys sydd ar gael, gan arwain at recriwtio pum aelod arall o’r cyhoedd i helpu i ddatblygu a phrofi’r arolwg a rhannu eu barn ar welliannau.

Defnyddiodd astudiaeth COBra hefyd y pecyn cymorth Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd mewn Olrhain Effaith Ymchwil (PIRIT). Defnyddiwyd y ddau offeryn PIRIT yn ystod yr astudiaeth gan ymchwilwyr a’r cyhoedd a oedd yn cymryd rhan i adolygu cynlluniau a gweithgareddau cynnwys presennol gan olrhain ei effaith. Canfuwyd bod defnyddio PIRIT wedi helpu i ysgogi trafodaethau ar gynyddu’r gwahanol lefelau a mathau o gyfleoedd cynnwys sydd ar gael, gan arwain at recriwtio pum aelod arall o’r cyhoedd i helpu i ddatblygu a phrofi’r arolwg a rhannu eu barn ar welliannau.

Dywedodd Elin Baddeley, Cydymaith Ymchwil ar astudiaeth COBra “Chwaraeodd Partneriaid Ymchwil PPI rôl allweddol wrth gyd-gynhyrchu dogfennau cynhwysfawr; mae hyn yn amlygu effaith bellgyrhaeddol gweithgareddau PPI, gan osod cynsail ar gyfer asesiad effaith cynhwysfawr yn ein hymchwil.”

Mae effaith y tîm PPI hefyd yn amlwg yn ail gam yr astudiaeth, lle’r oedd arolygon cleifion yn hollbwysig. Rhoddodd PPI Research Partners, bersbectifau ychwanegol a oedd yn mireinio deunyddiau arolwg, gan sicrhau eglurder o ran iaith a fformat. Arweiniodd hyn at gyfraddau cyfranogiad uwch ac ychydig iawn o heriau a adroddwyd gan gyfranogwyr.

Dywedodd Dr Kathy Seddon, Partner Ymchwil PPI WCRC “Roedd bod yn rhan o’r tîm PPI yn Cobra a gweld y PIRIT ar waith yn brofiad gwych. Roedd yn teimlo’n bwysig gallu cynnig fy mhrofiad byw o diwmorau ar yr ymennydd i helpu ymchwilwyr COBra. Maen nhw i’w canmol am eu penderfyniad i ddefnyddio PPI er budd eu hymchwil gyda chanlyniadau rhagorol.”

Mae cyfranogiad y Partneriaid Ymchwil PPI yn mynd y tu hwnt i lunio methodolegau; gwnaethant gefnogi’r broses dadansoddi cyfweliadau cychwynnol yn weithredol trwy gynnig cipolygon gwerthfawr a helpodd i fireinio themâu a oedd yn dod i’r amlwg yn eu cyd-destun. Gwnaeth eu cefnogaeth barhaol hwyluso ymdrechion recriwtio parhaus a chynorthwyo i ledaenu canfyddiadau’n effeithiol trwy grynodebau o gynadleddau, cyflwyniadau a chyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion.

Mae astudiaeth COBra yn esiampl o ragoriaeth gydweithredol, gan bwysleisio’r rôl ganolog y mae PPI yn ei chwarae wrth lunio dyfodol ymchwil a’r canlyniadau rhyfeddol y gellir eu cyflawni trwy batrwm ymchwil cynhwysol sy’n canolbwyntio ar gleifion.