Mynd i'r cynnwys

Ymchwilio i ganfod canser yng nghyd-destun anghydraddoldeb: cynllunio at y dyfodol gan ddefnyddio gwyddoniaeth ymddygiadol

Mae Kate Brain, Athro Seicoleg Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd ac arweinydd Thema 6 Strategaeth Ymchwil Canser Cymru (CReSt), yn taflu goleuni ar y ffordd mae canfod canser yn gynnar yn datblygu yn GIG y DU a’r heriau ynghlwm wrth fathau o anghydraddoldeb, gan bwysleisio’r dybryd angen i werthuso’r graddau y mae’r cyhoedd yn derbyn hyn yn ogystal â’r effaith, a hynny yn sgil prosiectau ymchwil amlddisgyblaethol ar y cyd.

“Mae’r GIG wedi gosod nod uchelgeisiol, sef canfod 3 o bob 4 canser yn gynnar erbyn 2028, naid o’r 1 o bob 2 ar hyn o bryd. Mae llu o dechnolegau newydd yn anelu at gyrraedd y targed hwn, boed yn ganolfannau diagnostig cyflym neu sgrinio fesul risg strata. Un agwedd chwyldroadol yw profion canfod cynnar aml-ganser (MCED) sydd â’r potensial i weddnewid y maes. Mae fy ymchwil wedi treiddio’n ddyfnach i ddeall a mynd i’r afael â rhwystrau rhag cymryd rhan yn y gwaith o ganfod canser a rhoi diagnosis yn gynnar, gan bwysleisio y bydd y datblygiadau newydd hyn, os na fydd y cyhoedd yn eu derbyn, yn cael trafferth hwyrach i lwyddo, gan ehangu’n anfwriadol y mathau cyfredol o anghydraddoldeb canser. Mae gwyddor ymddygiadol mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael â’r heriau hyn drwy astudiaethau ymchwil a ddylunnir yn ofalus.

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar sgrinio canser yr ysgyfaint, gan ddefnyddio sganiau CT dos isel at ddibenion canfod cynnar ymhlith poblogaethau risg uchel gan gynnwys unigolion â hanes o ysmygu a’r rheini o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig. Serch hynny, mae cynnwys y grwpiau risg uchel hyn yn rhan o’r sgrinio yn her aruthrol o hyd, yn rhannol oherwydd y stigma sy’n gysylltiedig â chanser yr ysgyfaint. Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU bellach yn argymell sgrinio ysgyfaint wedi’i dargedu ac mae fy ymchwil wedi tynnu sylw at y bylchau presennol yn y dystiolaeth o ran ymgysylltu â’r poblogaethau hyn yn effeithiol, gan danlinellu’r angen am ragor o ymchwil i ddatblygu a gwerthuso ymyraethau i gau’r bylchau hyn.

Yn sgil profion gwaed MCED, a ddyluniwyd i ganfod mathau lluosog o ganser gan ddefnyddio un prawf gwaed yn unig, ceir llu o heriau. Bydd yn hollbwysig sicrhau bod y manteision posibl yn sgil MCEDS yn deg ar draws pob grŵp yn y gymdeithas, a chynnwys lleisiau amrywiol yn rhan o ymchwil MCED i sicrhau canlyniadau tecach. Rydym wedi dechrau gwneud hyn drwy fy ngwaith fel cyd-gadeirydd y DU ar Weithgor Ecwiti Iechyd y Consortiwm Canfod Cynnar Aml-ganser

Wrth edrych tua’r dyfodol, gyda chymorth strategaeth CReSt, rwy’n rhagweld dyfodol cydweithredol fydd yn anelu at gynlluniau ymchwil ar raddfa fwy sy’n cael effaith drwy ddefnyddio cyllid rhaglennol. Mae’n bwysig defnyddio adnoddau sydd ar gael yng Nghymru a storfeydd data fel cronfa ddata SAIL a Doeth am Iechyd Cymru, at ddibenion ymchwil symlach a chadarn.

Fy ngweledigaeth a’m gobaith ar gyfer y dyfodol yw creu prosiectau cryfach ar y cyd drwy CReSt a defnyddio adnoddau Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd ym maes canfod canser wrth ymdrechu i sicrhau cynlluniau ymchwil mwy uchelgeisiol sy’n cael effaith.”